Mae cyn-Bennaeth Adran Theatr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cychwyn ar her newydd, gan geisio ehangu’r cyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg o fewn y coleg.
Mae’r fam 47 oed yn byw yn Wrecsam gyda’i phartner Duncan a’u plant Gwen (11) a William (5)…
Beth fyddwch chi’n ei wneud yn y swydd newydd?
Y bwriad yw gwella’r ddarpariaeth sydd ar gael yn Gymraeg.
Mae nifer y myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Wrecsam yn isel iawn, ac felly mae angen gwneud mwy.
Fe fydda i yn mynd ati i edrych ar sut allwn ni helpu academyddion eraill i hybu’r Gymraeg, a datblygu’r ddarpariaeth a llunio strategaeth datblygu’r Gymraeg i’r coleg.
Sut deimlad oedd rhoi’r gorau i arwain y cwrs Theatr, Teledu a Pherfformio ar ôl 17 mlynedd?
Teimlad od iawn achos mae yna gymaint o atgofion hyfryd. Bu’n bleser gweld myfyrwyr yn datblygu, yn codi mewn hyder, yn mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant. Mi fuon ni yn gwneud sioeau pob blwyddyn a chael lot o hwyl.
Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio ym myd y theatr a theledu, ac yn ddiddorol mae rhai wedi mynd ymlaen i ddiwydiannau hollol wahanol.
Gawsoch chi barti ta-ta?
Naddo, ond ges i andros o sioc, achos beth wnaeth y myfyrwyr presennol oedd trefnu tudalen facebook i ddweud diolch wrtha’i.
Ac roedd myfyrwyr ar hyd y blynyddoedd wedi gadael fideos bach a negeseuon a lluniau.
Roedd hwnna yn hyfryd ac mae o gena’i i’w gadw rŵan. Lyfli!
O le ddaeth eich diddordeb ym myd y theatr?
Rydw i wedi cael fy nylanwadu yn sicr gan fy nhad [Elfed ap Nefydd Roberts] oedd yn bregethwr a darlledwr gyda llais arbennig. Ac mae mynd i’r capel yn rheolaidd a gwrando ar rywun yn siarad yn gyhoeddus yn cael effaith ar rywun yn blentyn.
Hefyd, roedd gweld fy mrawd [Jonathan Nefydd] yn cymryd diddordeb mawr mewn actio, a rhyw naw mlynedd yn hŷn na fi, yn ddylanwad mawr.
A rhaid i mi ddiolch am y cyfleon gan athrawon yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth.
Ges i fynd ar gwrs Haf gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn 15 oed – ac roedd Matthew Rhys ar y cwrs yna – ac mae pethau fel yna yn cael dylanwad.
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn darlithio yn Wrecsam?
Mi fues i’n gweithio gyda Chwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth a chael profiadau ffantastig yn actio mewn dramâu i bobol ifanc.
A dim jesd actio, ond cynnal gweithdai ag ati a mwynhau arwain pobol ifanc.
Mi ges i gyfnod yn cyflwyno rhaglen o’r enw Cwmni Hon ar S4C oedd ymlaen yn y pnawn.
Wedyn fues i yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn darlithio ar y cwrs Celfyddydau Perfformio.
Beth yw eich atgof cynta’?
Roedd Mam a Dad yn rhieni prysur iawn, a Nain – Mam fy Mam – yn fy ngwarchod i.
A’r atgof yw eistedd gyda Nain yn gwylio teledu ac arogl lobsgows ar y stôf.
Beth yw eich ofn mwya’?
Rhedeg allan o mayonnaise!
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Rydw i wastad wedi cadw yn heini a mynd i redeg. Ond wrth fynd yn hŷn mae rhywun yn dechrau blino a phethau yn brifo mewn llefydd nad oedden nhw o’r blaen.
Felly rhyw flwyddyn yn ôl wnes i ymuno efo gym a dechrau codi pwysau, a dyna dw i’n wneud rhyw deirgwaith yr wythnos, ac yn mwynhau.
Mae o’n clirio’r ymennydd a rhoi rhyw gryfder ac eglurdeb meddwl i ti. Dw i’n dyfaru na wnes i ddim dechrau flynyddoedd yn ôl.
Pa mor brysur yw bywyd teuluol?
Mae dydd Llun i ddydd Gwener fel treadmill, bron iawn. Y plant yn mynd i bethau gwahanol – y ddau yn chwarae criced i’r clwb ym Mrymbo.
Ac mae William yn mwynhau ei bêl-droed a Gwen gyda diddordeb mawr mewn actio ac wedi bod ar raglen Byd Tad-cu ar Cyw.
Ac mae yna wersi piano ag ati gyda’r nos hefyd.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol yn siarad am bobl eraill.
Un o fy hoff ddyfyniadau i ydy: ‘Great minds discuss ideas, average minds discuss events, and small minds discuss people’.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Huw Edwards, Audrey Hepburn a Richard Ashcroft.
Y starter bwyd fydde sgalops mewn menyn a lemwn, gyda gwin Moët & Chandon bach.
Prif gwrs – fillet stake canolig efo chips wedi eu cwcio deirgwaith a salad bach parmesan. A rhyw chiraz bach.
Ac os oes yna le, pwdin siocled efo saws poeth a hufen iâ.
Hoff wyliau?
Mynd i Lindos yng Ngwlad Groeg gyda Non Tudur, gohebydd Golwg, pan oedden ni yn ein harddegau. Mynd efo mam Non a chael hwyl a chwerthin a syrthio mewn cariad efo’r wlad.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Rydw i yn cysgu yn dda iawn.
Hoff ddiod feddwol?
Unrhyw Marlborough savignon blanc o Seland Newydd, ond yn enwedig un o’r enw Greywacke yn oer.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Yn ddiweddar, The Hungover Games gan Sophie Heawood sydd â cholofn yn The Times.
Mae o wir yn adlewyrchu’r 1990au hwyr yna, yr un amser â phan oeddwn i yn ifanc. Dod a lot o atgofion yn ôl. Hyfryd!
Hoff air?
Cydweithredol. Dw i wastad wedi cydweithredu wrth fy ngwaith ac yn fy mywyd.
Sut beth oedd cael Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn prynu clwb pêl-droed Wrecsam?
Wel, ar y cychwyn, doedd neb yn credu’r peth, pawb yn meddwl ei fod o’n jôc fawr.
Yn raddol, dod i sylweddoli fod y peth yn hollol wir.
A rhyw flwyddyn yn ôl, rhyw si eu bod nhw yn dod i Wrecsam. A dyna’r trobwynt – eu gweld nhw yn y dref, yn cerdded rownd yn ysgwyd llaw efo pobol.
Faint o ddrama mae’r ddau actor wedi greu gyda’r clwb?
Ryden ni yn byw yn Acton, sydd rhyw ddeng munud o’r dref, a ti’n hawdd yn gallu clywed y Cae Ras o’r ardd.
Ac os wyt ti’n piciad allan ar bnawn Sadwrn, alli di ddim ffeindio unman i barcio ac mae yna draffig.
Mae o wedi codi statws Wrecsam ac mae yna ryw falchder mawr yma.
Pa un fyddech chi’n ei ddewis i arwain gweithdy actio yn y brifysgol – Ryan ynteu Rob?!
Ryan – fo ydy’r delaf!
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Dw i’n ofergoelus dros ben.
Un o fy ofergoelion yw bod ti yn mynd allan drwy’r un drws ag y des di fewn – roedd hwnna yn hunllef yn ystod locdawn, pan oedd pob peth yn one way!