Nofel leol ond oesol yw Pridd, gan awdur sy’n disgrifio’i hun fel “creadur bach reit hen ffasiwn” …
‘Mae rhywun yn gweithio ar hyd ei oes. Yn hel cerrig, cau bylchau, codi weirs. Yn carthu a phlannu a charthu a phlannu eto… Yn gwneud pethau nad ydi o am eu gwneud ac yn methu gwneud yr hyn yr hoffai. Yn trwsio ac yn poetsio a chwerthin a chrio ac yn hel pethau brau sy’n siŵr o chwalu’n ddarnau mân.’