Mae hi’n go debyg mai Hedyn yw’r llyfr ffuglen cyntaf i blant yn y Gymraeg i gynnwys cymeriad sy’n gwisgo offer clyw yn ei glustiau.

“Synnen i ddim!” meddai’r awdur Caryl Lewis, wrth iddi sgwrsio am Hedyn, addasiad Cymraeg o’r nofel Seed y mae hi ar fin ei chyhoeddi gyda gwasg fawr Macmillan ar 12 Mai. Meinir Wyn Edwards sydd wedi addasu’r nofel Saesneg i’r Gymraeg ar ran gwasg y Lolfa.