Mae gwerthu nofel i gyhoeddwr byd-eang wedi bod yn brofiad “swreal iawn” ac “anghygoel” i Caryl Lewis…

A hithau wedi sicrhau dêl dau-lyfr gyda chyhoeddwr llyfrau mawr Saesneg, mae’r awdur Caryl Lewis yn awyddus i siarad am ei nofel newydd i blant yn eu harddegau cynnar.