Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i bron â gorffen Mother, Mother, nofel gyntaf Annie Macmanus. Mae Mary, o Belffast, yn galaru am ei mam a’i diffyg adnabyddiaeth ohoni, ac yn aberthu tipyn o’i bywyd ei hun drwy fod yn fam i fab deunaw oed. Anrheg ar Sul y Mamau oedd y gyfrol – mae’r plant yn gwybod sut i blesio’u mam! Ond mae yna bentwr uchel o lyfrau ar y bwrdd bach wrth ymyl y gwely dw i ar ganol eu darllen, rhaid cyfaddef.