Etifeddodd Mansel Raymond a’i efaill y fferm deuluol yn Sir Benfro yn 14 oed pan fu farw eu tad yn 1967.

Gadawodd Mansel a’i frawd, Meurig, yr ysgol mor fuan â phosib, ac mae’r ddau’n ffarmio yn Nhreletert yng ngogledd y sir fyth ers hynny.

Gwartheg godro sy’n cael eu cadw ar fferm Jordanston Hall yn bennaf, ac mae diddordeb Mansel yn y diwydiant llaeth wedi’i arwain i gadeirio sawl grŵp, o Benfro i Frwsel.