Mae’r band gwerin wedi ehangu eu gorwelion ar eu halbwm gyntaf ers 2015 – ond mae’r cyd-ganu teuluol dal yn llesmeiriol…

Aeth degawd heibio ers i Elan, Marged a Gwilym ffurfio’r triawd gwerin amgen Plu.

Yn y dyddiau cynnar fe gafodd y ddwy chwaer a’r brawd hwyl arni wrth recordio tair albwm, gyda phob un wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn.