Jesd pan oeddach chi’n meddwl bod yr hen blaid Lafur a Phlaid Cymru yn canlyn yn selog, wele gyhoeddi maniffesto sy’n taflu cysgod dros y cyfan!

Draw yn y Bae mae’r Blaid yn cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru ar bethau fel prydau ysgol am ddim i holl blantos Cymru, a chynyddu treth y cyngor yn arw ar dai haf… a Phleidwyr yn baglu dros ei gilydd i frolio’r manteision.

Ond ddechrau’r wythnos roedd y Blaid yn cyhuddo “Llafur Caerdydd” o niweidio ein prifddinas.