Bydd rhaglen arbennig awr o hyd o’r gyfres Garddio a Mwy ar S4C nos Lun nesaf, 18 Ebrill, yn ein hannog i barchu’r ddaear a’i hadnoddau naturiol.

Y gantores boblogaidd Meinir Gwilym sy’n cyd-gyflwyno a chynhyrchu’r gyfres ac yma mae’n egluro pam bod y Gwanwyn yn dymor mor arbennig i bobol sy’n hoffi byw yn yr ardd…

“Y Gwanwyn ydi fy hoff amser i o’r flwyddyn. Dw i ddim yn berson Gaeaf dweud y gwir, dw i’n treulio’r tymor hwnnw’n edrych ymlaen at y Gwanwyn! Yr eirlysiau, y cennin Pedr, y clychau’r gog, yr hau, plannu tatws, a’r gwennoliaid yn dychwelyd,” meddai Meinir Gwilym sy’n aml yn cyflwyno eitemau o’r ardd yn ei chartref, Pant y Wennol, ger Pwllheli ym Mhen Llŷn, ar gyfer y gyfres Garddio a Mwy.

“Mae’r Gwanwyn yn fy ngwneud i’n emosiynol weithiau,” ychwanega’r gantores boblogaidd a gafodd ei magu yn Llangristiolus, Ynys Môn, “ac yn dangos gwyrthiau’r ddaear inni yn y ffordd amlyca’ posib. Mae ethos garddio’r gyfres yn cynnwys trin y ddaear a’i hadnoddau efo parch. O’r cychwyn un rydan ni wedi annog ailgylchu, garddio heb blastig pan yn bosib a defnyddio compost di-fawn – ac mi fyddwn ni’n ehangu ar hynny yn y gyfres yma.”

Bu i lawer dreulio mwy o amser yn eu gerddi yn ystod y pandemig, a bu gwerthfawrogiad o’r newydd o fyd natur a’r hyn sy’n bosib ei feithrin yn y pridd.

Ac er bod y rheolau wedi llacio erbyn hyn, mae Meinir yn awyddus iawn i gynnal y momentwm a’r ysbryd yma’n fyw.

“Mi wnaeth y cyfnod clo cyntaf yn sicr, er y galar, y golled a’r ofn yna, ddod â rhai pethau positif efo fo. A chael cyfle i fynd am dro, ac amser i dreulio yn eu gerddi oedd y peth positif hwnnw i lawer iawn o bobol. Dw i ar dân eisio cadw’r diddordeb newydd yna wnaeth rhai pobol ddarganfod yn eu gerddi.

“Ac rydan ni fel cyfres yn awyddus i ddangos sut mae posib mwynhau ein gerddi a’u defnyddio i’r eithaf ar gyfer tyfu bwyd, iechyd meddwl, a hamddena. Ac mi fyddwn ni’n rhannu hacks am sut i wneud rhai jobsys llafurus yn dipyn llai poenus,” esbonia.

Mae garddio, canu a chyfansoddi yn mynd law yn llaw i Meinir, sy’n aelod o’r grŵp gwerin Pedair ynghyd â Gwenan Gibbard, Siân James a Gwyneth Glyn, ac a fydd yn rhyddhau eu halbwm gyntaf ym mis Mehefin.

Llun: S4C

Yn ogystal â’i cherddoriaeth, mae garddio yn ganolog i fywyd Meinir, sy’n cael budd mawr o’r gwaith a’r gwyrddni.

“Mae’r byd yn lle anodd, dychrynllyd weithiau – ac yn enwedig felly ar y funud, efo erchyllterau rhyfel Wcráin. Yn nes adra, mae yna ofnau mawr am dlodi gwirioneddol efo costau byw, bwyd ac ynni yn codi. Mae’n gallu bod yn llethol yn dydi. Felly mae gwneud rhywbeth efo fy nwylo, garddio, hau a phlannu, a thyfu bwyd yn enwedig – cael fy nwylo yn y pridd – yn gadael i rywun gael dihangfa am funud, neu ychydig oriau, jyst i gael y meddwl yna’n fwy clir i ddelio efo pethau, ac i wneud beth allwn ni i helpu.”

Rhoi tro ar dyfu bwyd

Gyda chostau byw a phrisiau bwyd yn codi, yn ogystal â’r amheuaeth am sicrwydd cyflenwad rhai bwydydd, mae’n bwysicach nag erioed i dîm Garddio a Mwy eu bod yn gallu dangos sut i lwyddo wrth dyfu llysiau, a sut i ddod dros broblemau yn yr ardd, meddai Meinir Gwilym.

“Rydan ni bob amser wedi rhoi pwyslais ar ddefnyddio pob darn o gynnyrch o’r ardd, a cheisio defnyddio dulliau traddodiadol i gadw bwyd dros y Gaeaf yn y gyfres. Mae yna brosiect diddorol rydan ni’n gweithio arno ar hyn o bryd, fydd yn annog gwylwyr a dilynwyr y gyfres i roi tro ar dyfu bwyd am y tro cynta’…

“Rydan ni hefyd yn rhoi sylw i erddi a phrosiectau cymunedol yn y gyfres, ac mae’r rhain yn elfennau pwysig, ac yn fodd i ni gydweithio efo’n gilydd i dyfu ein bwyd ein hunain.”

Un o gryfderau’r gyfres, yn ôl Meinir, yw ei bod yn cynnig rhywbeth i bawb – o arddwyr profiadol, garddwyr newydd sbon, a phobol sydd ddim yn garddio o gwbl – eto. Mi fydd y rhaglen arbennig awr o hyd o Garddio a Mwy ar nos Lun y Pasg yn cynnig syniadau am bethau i’w gwneud yn yr ardd ym mis Ebrill, ynghyd â syniadau am sut i ddiddanu’r plant dros y gwyliau.

“Mae hon yn rhaglen sy’n rhoi cyfle i ni dreulio ’chydig mwy o amser nag arfer efo’n gwylwyr, ac yn gyfle i rannu tips efo pobol sydd efallai’n ymuno efo’r rhaglen am y tro cynta’,” meddai Meinir.

“Mi fydd yna gyfle hudolus a hamddenol i wrando ar Gôr y Wîg yn y bore bach, syniadau ar dyfu bwyd sy’n ychwanegu maeth i’r deiet ar sil ffenest, ymweliadau efo gwahanol erddi, a chyfle i gyfarfod rhai o gyflwynwyr achlysurol newydd y gyfres hefyd,” meddai Meinir, sy’n cyd-gyflwyno’r gyfres gyda Sioned ac Iwan Edwards sy’n byw ym Mhont-y-Tŵr yn Nyffryn Clwyd.

Mae’r cyflwynwyr achlysurol newydd eleni yn cynnwys Heledd Evans, enillydd ‘Garddwr Ifanc y Flwyddyn’ yng nghystadleuaeth Gerddi Gorau Cymru Garddio a Mwy y llynedd,  Adam Jones, Carol Williams, Naomi Saunders, Ian Keith Jones a Rhys Rowlands – gyda phob un yn arbenigo mewn gwahanol faes.

Garddio a Mwy ar S4C nos Lun, 18 Ebrill, am 8.25