Mae hi’n amlwg fod yna gryn ddisgwyl wedi bod am fersiwn Saesneg o nofel Angharad Tomos am gaethwasiaeth…

Mae nofel boblogaidd Angharad Tomos Y Castell Siwgr ar fin cael ei chyhoeddi yn Saesneg – diolch i Wyddel sydd wedi ei chyfieithu yn uniongyrchol o’r Gymraeg.

Daeth Mícheál Ó hAodha, sy’n hanu o ddinas Galway yng ngorllewin Iwerddon, i nabod yr awdur pan fuodd yn astudio yng Ngholeg y Llyfrgellwyr yn Aberystwyth yn y 1990au cynnar.