Sophie Williams oedd yn actio ‘Kylie’ yn Tipyn o Stad hyd at 2008, ac yn fwy diweddar mae’r ferch 29 oed o Gaernarfon wedi actio’r un cymeriad eto yn Stad.

Rhwng ffilmio’r ddwy gyfres mae wedi bod yn teithio’r byd a gweithio mewn ski resort yn yr Eidal…

Sut brofiad oedd camu o flaen y camera a chael eich ffilmio eto?

Roedd yn amser hir heb fod yn actio, ac roeddwn i yn nerfus i ddechrau, ond dw i’n teimlo wnes i ddisgyn yn ôl fewn iddy fo mewn dim.

‘Kylie’

Yr actio diwethaf wnes i [cyn ffilmio Stad yn 2021] oedd Gwlad yr Astra Gwyn nôl yn 2013, lle’r oeddwn i yn lleisio cymeriad ‘Shelley’, y chwaer oedd yn siarad ar y ffôn efo ‘Trefor’ y gyrrwr tacsi.

Wedyn yn 2014 wnes i symud i Sbaen am yr Haf, a symud i’r Eidal am y Gaeaf.

Fues i yn gweithio mewn gwesty yn ski resort Sauze Doulx, yn yr Alpau.

Doeddwn i ddim yn dechrau gwaith tan bedwar, felly roeddwn i yn cael drwy’r dydd i sgïo.

Fydda i bob tro yn cael shot o tequila cyn mynd i sgïo, i helpu efo’r nerfau.

Beth sydd mor dda am sgïo?

Doeddwn i heb fod yn sgïo cyn mynd i’r Eidal, ond yn awyddus i gael go… ac mae o mor theraputic a relaxing.

Rwyt ti ar ben dy hun, methu siarad efo neb tra ti’n sgïo… a dw i’n siarad efo fy hun drwy’r amser pan dw i’n sgïo. Mae o jesd mor braf efo’r mynyddoedd o dy gwmpas di. Lyfli!

Sut gawsoch chi ran ‘Kylie’ yn y Tipyn o Stad gwreiddiol?

Roeddwn i yn ddeg oed ar y pryd, ac roedd yna wyth o genod yn mynd am y rhan.

A dw i’n cofio’r audition fel tasa hi’n ddoe – horrible!

Roeddwn i yn gorfod hitio teledu a mynd yn flin am bod o ddim yn gweithio!

Doeddwn i heb wneud dim byd fel yna cyn hynny, ac roedd o’n nerve wracking.

Pa mor debyg ydych chi i ‘Kylie’?

Ymmm, fyswn i yn cael lot o stic am ddweud celwydd, felly yr ateb ydy… yndw, dw i wir yn debyg!

Wnaeth hogan fach chwaer fi, sy’n chwech, ddweud [wrth wylio Stad]: ‘Oh My God! Fel yna mae Sophie go-iawn!’

Ond dw i ddim yn mynd rownd yn dyrnu lladron…

Faint o her oedd ffilmio’r golygfeydd ymladd?

Gawson ni professional fighting co-ordinator i ddod fewn, ac roedd o’n anodd ar y dechrau – dw i ddim wedi arfer fflipio hogiau dros fy ysgwydd a ballu!

Ond unwaith maen nhw yn dy ddysgu di sut i’w wneud o heb frifo neb, mae o yn lot o hwyl.

Sut gawsoch chi ran ‘Kylie’ eto am yr ail dro yn Stad?

Ges i alwad ffôn i ddweud bod y cymeriad yn dod nôl, ac roedden nhw eisiau i fi wneud audition i ddod yn ôl fel ‘Kylie’.

Ac roedden ni mewn locdawn, felly roedd yn rhaid i fi ffilmio fy hun ar i-pad… ac roedd o mor anodd…

Ges i’r alwad yn cynnig rhan ‘Kylie’ i mi, ac roeddwn i MOR excited!

Sut beth oedd gweld y cast eto?

Ar y diwrnod cyntaf aethon ni gyd i westy’r Celtic Royal i ddarllen y sgript, pawb mewn stafell… a doeddan nhw heb fy ngweld i ers pan oeddwn i yn rhyw 14, felly roeddan nhw i gyd wedi cael sioc… ond roedd o mor neis gweld pawb!

Ydych chi wedi cael pobol yn eich nabod chi yn y stryd?

Mae o’n shocking faint o bobol sy’n sdopio fi ar ochr y stryd i ofyn: ‘Oes yna gyfres arall?’

Pobol dw i ddim yn nabod yn gofyn os oes yna un arall.

A dw i wedi dychryn faint o’r criw ifanc sy’n nabod fi o Stad.

Wnes i fynd i gae’r Oval i weld fy nghariad [Ryan Williams] yn chwarae [pêl-droed], ac roedd gymaint o blant yn dod ata fi.

Genod bach yn dod ata fi eisiau tynnu llun, wedi gwirioni, yn meddwl bod cymeriad fi yn reit cool.

Beth yw eich atgof cynta’?

Dw i’n cofio bod yn ddwy oed a brathu bys hogyn bach am bod o wedi cael carton llefrith cyn fi.

Beth yw eich ofn mwya’?

Hedfan.

Dw i’n crïo, chwydu, crynu. Awfull.

Ond dw i ddim yn gadael iddo fo sdopio fi, achos dw i’n lyfio trafeilio.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobol sydd ddim yn indicetio wrth yrru car.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Denzel Washington, fy hoff actor.

Toto Wolff, rheolwr tîm Mercedes yn Formula One.

Celine Dion a Michael Jackson.

Cinio Dydd Sul i fwyd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fysa fo yn gywilyddus os fyswn i yn dweud rhywun heblaw am Ryan, fy nghariad annwyl!

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Mynadd.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Ro’n i yn cael bws o ganol Milan i’r maes awyr, ac roeddwn i wedi bwyta caws doji mewn toasty, ac angen toilet.

Ac roedd y siwrna ar y bws yn 47 munud, ac roedd yn rhaid i fi sefyll yn chwysu chwartiau a chrïo am bo fi mor sâl.

A wnaeth un ddynes ofyn os oeddwn i yn iawn, achos ei bod hi yn meddwl bo fi yn cael babi…

Parti gorau i chi fod ynddo?

Dathlu pen-blwydd boi oedd biau bar yn Bali.

Rhyw bymtheg ohono ni yn yfed gwin a tequila drwy’r nos a gwrando ar gerddoriaeth byw, a bwyd hyfryd.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Ryan yn siarad a cherdded yn ei gwsg. Mae o’n uffernol!

Wnes i ddeffro un noson ac roedd o’n chwarae efo cyrtan fi, a wnes i ofyn be oedd o’n wneud. A wnaeth o ddweud fod o’n chwilio am bolion…

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Llyfrau James Smith – Not A Diet Book a Not A Life Coach. Maen nhw yn wych, yn gwneud i chi edrych ar fywyd mewn ffordd hollol wahanol. Agoriad llygad.

Hoff air?

Taw!

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Dw i yn siarad Eidaleg, ond fues i yn gwylio cyfresi o’r Eidal ar Netflix yn ystod y pandemig, er mwyn cadw’r iaith i fynd.

Doeddwn i ddim yn siarad yr iaith cyn mynd yna i weithio, ac erbyn yr ail flwyddyn – a’r cyfarfod staff i gyd yn Eidaleg – wnes i ddychryn efo faint roeddwn i yn ei ddeall.

 

Mae Stad ar S4C Clic a’r BBC iplayer