Sefyll etholiad yn yr ysgol yn wyth oed wnaeth sbarduno diddordeb Elyn Stephens mewn gwleidyddiaeth, ac erbyn ei bod yn 25 roedd wedi ei hethol i’w chyngor sir lleol yn Rhondda Cynon Taf.

Erbyn hyn mae’r ferch o bentref Tynewydd yn nhopiau Cwm Rhondda, wedi bod yn gynghorydd sir tros Blaid Cymru ers pum mlynedd.

Er ei bod hi wedi cael ambell adeg annifyr fel ymgeisydd a chynghorydd, mae’r profiad wedi pwysleisio’i chred bod gwleidyddiaeth yn ffordd i newid pethau er gwell.