Yr Haf hwn fe fydd Jonathan Williams, perchennog y Pembrokeshire Beach Food Company, yn dechrau ar fenter newydd. Mae o yn y broses o adnewyddu hen dafarn yr Old Point House ym mhentref Angl yn Sir Benfro, a’i throi’n fwyty a bar. Yn y cyfamser mae o wedi lansio Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr ar 14 Ebrill, er mwyn annog pobl i ddathlu’r gwymon arbennig sy’n rhan o draddodiad a diwylliant Cymru…

Jonathan Williams yn casglu gwymon

Mae bara lawr yn fwyd sydd wedi mynd yn angof ac mae angen ei ddefnyddio yn llawer ehangach.

Dyna farn Jonathan Williams, perchennog a sylfaenydd y Pembrokeshire Beach Food Company – y busnes a sefydlodd yn Sir Benfro yn 2010 gyda stondin fwyd y tu allan i siop fferm, ac sydd bellach wedi tyfu i gynnwys pob math o fwydydd sydd wedi cael eu gwneud gyda gwymon, cynhyrchu rỳm Barti, a rhedeg caffi tymhorol.

I’r perwyl hwn, mae Jonathan wedi lansio Diwrnod Cenedlaethol i ddathlu bara lawr ar 14 Ebrill gyda’r bwriad o

annog mwy o bobl i brynu, bwyta, coginio ac arbrofi gyda’r gwymon.

Yn syml, bara lawr yw gwymon sydd wedi ei ferwi am oriau, ac fel arfer wedi ei ffrïo cyn ei fwyta.

“Mae’r rhan fwya’ o bobl yn edrych ar bara lawr ac yn meddwl: ‘na, dw i ddim eisiau trio hwnna.’ Dydy o ddim yn edrych yn arbennig o flasus ond dw i eisiau i bobl rhoi tro arno a gweld y gwahanol ffyrdd gallwch chi ei ddefnyddio. Mae’n super food ac yn llawn fitaminau a mineralau, a hefyd yn ecogyfeillgar,” esbonia Jonathan, a oedd wedi dechrau gwerthu bara lawr yn 2015. Mae’n casglu’r gwymon â llaw ac mae’n cael ei brosesu wedyn yn uned y cwmni yn Noc Penfro.

“Dw i eisiau i bobl o bob rhan o’r byd, nid jest yng Nghymru, i ddod i wybod am bara lawr a pha mor arbennig mae’n

Jonathan Williams yn casglu gwymon

gallu bod. Rydym ni’n galw ar gogyddion, perchnogion bwytai, blogwyr, busnesau bwyd, delis, siopau a thafarndai i’n helpu ni i ddathlu bara lawr. Mi fydd yn ddiwrnod sydd wedi’i neilltuo i bara lawr a chyfle i ddangos i bobl sut i’w goginio – dyw e ddim jest yn rhywbeth i’w fwyta i  frecwast, mi fedrwch chi ei gynnwys mewn pob math o bethau,” esbonia Jonathan, sydd wedi bod yn angerddol am wymon ers yn blentyn, pan gafodd ei gyflwyno “i’w ryfeddodau” gan ffrindiau ei rieni a oedd yn fiolegwyr morol.

Brecwast y glowyr

Mae hanes bara lawr yn dyddio nôl canrifoedd ac mae Gerallt Gymro yn cyfeirio ato yn y cofnod o’i daith o amgylch Cymru yn y ddeuddegfed ganrif.  Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bara lawr a chocos yn fwyd beunyddiol i bobl, yn enwedig yn ardal Abertawe, yn ystod y chwyldro diwydiannol, ac fe fyddai glowyr yn bwyta bara lawr i frecwast cyn iddyn nhw fynd i’r pyllau glo.

Ond erbyn y 1970au roedd llawer llai o alw am fara lawr oherwydd bod bwydydd parod wedi dod yn fwy poblogaidd, ac mae Jonathan yn awyddus iawn i roi bara lawr ar y map unwaith eto.

“Wnaethon ni ddewis cynnal y Diwrnod Cenedlaethol ar 14 Ebrill oherwydd bod y lafwr [y math o wymon sy’n cael ei ddefnyddio i wneud bara lawr] yn dechrau tyfu yn y gwanwyn. Hefyd mae’n ddiwrnod arbennig yn Siapan lle maen nhw’n cynnal diwrnod “Mother of the Sea” i ddathlu’r gwymon. Dyma’r enw wnaethon nhw roi i Kathleen Mary Drew-

Y gwymon sy’n cael ei
ddefnyddio i wneud bara lawr

Baker, oedd yn adnabyddus am ei gwaith ymchwil arloesol i lafwr, a oedd wedi helpu’r diwydiant gwymon Nori yn Siapan yn ystod y 1950au.

“Mae Siapan yn cynnal pob math o ddigwyddiadau i ddathlu’r gwymon ac roedden ni’n awyddus i wneud yr un peth yma a chael diwrnod oedd yn dipyn o hwyl. Fe fyddwn ni’n rhoi samplau o fwyd sy’n cynnwys bara lawr ac yn cynnal cystadleuaeth bwyta bara lawr hefyd,” eglura Jonathan, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei fwyd stryd yn Cafe Môr ar draeth Freshwater West yn Sir Benfro.

Ail-agor hen dafarn

Mae’r caffi tymhorol ar y traeth bellach wedi cau ac fe fydd Cafe Môr wedi’i leoli’n barhaol tu allan i hen dafarn yr Old Point House yn Angl, ac yn agor ar gyfer y Pasg. Fe gaeodd y dafarn ddwy flynedd yn ôl ac fe fu Jonathan mewn trafodaethau gydag Ystad Angl, sy’n berchen y dafarn, er mwyn ei hail-agor.

Un o’r cytiau sy’n cael eu defnyddio i sychu’r gwymon

“Roedd y trafodaethau wedi bod yn mynd mlaen ers dipyn ac wedyn aeth pethau braidd yn flêr oherwydd y cyfnod clo. Ond rydan ni wedi bod yn atgyweirio’r adeilad dros y misoedd diwethaf ac yn gobeithio agor ym mis Mehefin gyda bwyty sy’n defnyddio cynnyrch tymhorol, lleol, bwydydd sydd wedi cael eu fforio, a gwymon, wrth gwrs. Mae gynnon ni pob math o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dafarn. Rydan ni’n gobeithio cael nosweithiau efo cerddoriaeth fyw, a chynnal priodasau a dathliadau yno hefyd.

“Fe fydd pobl yn gallu mwynhau bwyd stryd Cafe Môr yn yr ardd, sy’n lle hyfryd i eistedd, a bydd y bar tu allan ar agor hefyd,” meddai Jonathan, sy’n awyddus i bobl ddod i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr yn yr Old Point House ar 14 Ebrill.

“Y bwriad ydy gwneud hyn yn ddigwyddiad blynyddol a chael busnesau ac ambell seleb yn rhan o’r dathliadau hefyd. Dw i’n gobeithio y bydd yn dod yn rhan o’r calendr Cymreig.”

Am ragor o wybodaeth ewch i laverbreadday.co.uk

Rysait ar gyfer cawl asbaragws, bara lawr a phys

Digon i bedwar

Mae’r cawl yma’n flasus ar gyfer cwrs cyntaf, cinio neu swper. Gallwch weini’r cawl gyda digon o fara a menyn.

Cynhwysion

1 nionyn canolig, wedi ei dorri’n fân

2 glôf mawr o arlleg, wedi’u sleisio

1.25 litr o stoc llysiau

1 taten (tua 150g), wedi’i phlicio a’i deisio

100g pys

200g asbaragws, wedi’i dorri’n ddarnau

2 llwy fwrdd o fara lawr

Olew olewydd

Halen a phupur

Dull

Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban fawr a choginio’r winwn nes ei fod yn feddal.

Ychwanegwch y garlleg a’i goginio am funud.

Ychwanegwch y stoc a’r daten a’i goginio nes bod y daten yn feddal.

Ychwanegwch yr asbaragws a’r pys a’u coginio am gwpl o funudau nes bod yr asbaragws yn feddal, cyn blendio’r cawl.

Cymysgwch y bara lawr yn y cawl, ychwanegwch halen a phupur, a’i weini gydag ychydig o hufen os hoffech.