Cafwyd cryn ddathlu wedi canlyniad hanesyddol ar y cae chwarae, wrth i dîm Cymru C ennill yn erbyn Lloegr C am y tro cyntaf erioed.

4-0 i Gymru oedd y sgôr ar gae’r Oval yng Nghaernarfon ar nos Fercher olaf mis Mawrth, a charfan y Cymry – yn gymysgedd o chwaraewyr Uwch Gynghrair y Cymru Premier – yn dathlu o’i hochr hi.