Mae’r actor 43 oed i’w weld yn nrama Stad ar S4C ar hyn o bryd, yn portreadu’r plismon Keith Gurkha, un o gymeriadau’r gyfres Tipyn o Stad (2002-2008).

Roedd yn actio Trefor y gyrrwr tacsi yn Gwlad yr Astra Gwyn, Alfie Butts yn y sit-com My Family a Rapsgaliwn ar Cyw.

Wedi ei fagu yn yr Wyddgrug yn Sir y Fflint, mae Rhodri yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gymar, eu tri o blant, dwy gwningen a chath…

Sut deimlad oedd atgyfodi Keith Gurkha?! 

Roedd o’n brofiad rhyfedd ac yn hollol annisgwyl ceisio mynd yn ôl dan groen yr hen Keith Gurkha. Mae tipyn o amser ers i mi adael stad Maes Menai felly’r gamp oedd ceisio adfywio rhywfaint o agweddau ac osgo’r cymeriad tra’n cofio fod rhywun yn datblygu dros amser. Roedd Keith ychydig yn llywaeth a diniwed erstalwm ond erbyn hyn mae’n heddwas llwyddiannus sydd wedi cael ei ddyrchafu i weithio yng Nghaernarfon. Felly efallai fod ychydig o’r

Keith (Rhodri Meilir)

diniweidrwydd dal yno, ond mae o’n dda wrth ei waith.

Beth yw’r atgofion am ffilmio Tipyn o Stad? 

Tipyn o Stad oedd y gyfres deledu gyntaf i mi fod yn rhan ohoni ac yn ysgol wych i ddysgu gan actorion roeddwn i wedi edmygu a pharchu ers yn ddim o beth. Roedd naws gyfeillgar, deuluol ar y set a’r criw i gyd yn tynnu ’mlaen yn dda. Wna i fyth anghofio ffilmio’n gynnar un bore ar y stad a gorfod aros i awyren hedfan heibio gan ei bod yn gwneud gormod o sŵn. Dw i’n cofio meddwl i’n hun: “Sgwn i be’ fysa’n digwydd tasa honna’n hedfan i mewn i’r tŷ ‘cw rŵan?” Toc wedi hynny, wnes i orffen gwaith am y dydd a mynd yn ôl i’n fflat yn y Felinheli, gan droi’r teledu ymlaen. 9/11.

Beth fuoch chi’n ei wneud ar ôl Tipyn o Stad?

Roeddwn i wedi bod yn y gyfres ers y dechrau ac erbyn y bedwaredd gyfres, er gwaetha’r ffaith fy mod yn dal i fwynhau’n hun, roeddwn i’n dechrau awchu am gael gwahanol brofiadau. Gan fy mod i’n ifanc a heb unrhyw gyfrifoldebau fel morgais, plant neu gariad, wnes i benderfynu gamblo, gan adael y gyfres heb unrhyw waith arall i fynd iddo. Dw i’n meddwl mai dyna pryd ges i Asiant, wnaeth agor y drws i’r posibilrwydd o weithio y tu hwnt i Gymru. Dw i wedi bod yn ffodus i allu gweithio ym mhob math o lefydd ond wna i byth droi fy nghefn ar Gymru gan mai fama dw i wedi mwynhau’r cymeriadau mwyaf diddorol a heriol. Mae fy nyled i S4C a chwmnïau theatr Cymru yn enfawr.

Beth arall sydd gennych chi ar y gweill? 

Roedd y cyfnod clo yn gyfnod ansicr i bawb, mewn unrhyw fath o waith. Mwyaf sydyn, roedd fy mywoliaeth wedi diflannu’n llwyr. Yna, pan gafodd cynyrchiadau teledu’r caniatâd i barhau, ffrwydrodd pethau gyda phopeth yn digwydd ar unwaith. Fues i’n ffodus iawn gan fynd o Bregus (Fiction Factory) i In My Skin (BBC) i For The Grace of You Go I (Theatr Clwyd) cyn dychwelyd i Maes Menai ar gyfer Stad. Ar un adeg, roedd yr holl gynyrchiadau i fod i ddigwydd yr un pryd ac roeddwn yn wynebu sefyllfa lle fysa’n rhaid i mi ddewis yn ofalus pa un fedrwn i fod yn rhan ohoni. Diolch i’r nefoedd, roedd y Duwiau Drama’n gwenu arna i a doedd yna ddim rhaid dewis un dros y llall. Feast or famine yw hi’n aml iawn gyda’r math yma o waith. Ar hyn o bryd, gan ein bod newydd gael gwaith wedi’i wneud ar y tŷ, mae’n fwy tebygol y gwelwch chi fi yn B&Q nag ar unrhyw lwyfan.

Beth fu’r hoff ran i chi actio hyd yma? 

Dw i wrth fy modd yn cael fy ngweithio. Tydw i ddim yn un o’r actorion hynny sy’n hoffi waltzio fewn am ychydig o oriau bob wythnos. Dyna un o’r rhesymau pam fydda i’n mwynhau gwaith theatr; rydach chi yno drwy’r dydd, bob dydd, nes fydd y sioe’n agor i’r cyhoedd. Ges i fodd i fyw tra’n ffilmio Gwlad yr Astra Gwyn gan mai dim ond un olygfa doedd Trefor ddim yn ymddangos ynddi dros dair cyfres a thri rhifyn arbennig y Nadolig. Ar ben hynny, roedd popeth yn wych: y cast a’r criw, syniad Bedwyr Rees, sgwennu Graham Jones a gweledigaeth athrylithgar Aled Davies-Jones. Weithiau, fydda i’n breuddwydio ein bod dal wrthi. Happy days!

Beth fyddai eich cyngor i unrhyw un sy’n ystyried mynd i actio?

Gadewch eich hun adref, byddwch yn barod i ddiosg y gragen gymdeithasol a gwnewch y mwya’ o’r hyn sydd ganddoch chi. Os ydych yn frigyn hir, main, gyda breichiau hir fel Mr Tickle neu’n lwmpyn bach crwn, go with it. Y wers orau ges i erioed oedd gan Dr Roger Owen tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bob bore, cyn dechrau ymarfer, roedd yn rhaid i bob myfyriwr a myfyrwraig ddawnsio yn unigol o flaen y myfyrwyr eraill. Nid dawnsio ballroom, ballet na’r hynny a wneir mewn clwb neu ddisco, ond symud y corff yn y ffyrdd mwyaf eithafol heb orfod ymateb o reidrwydd i rythm y gerddoriaeth. Gwn fod hyn yn swnio’n hunllefus ond roedd yn brofiad o ryddhad llwyr, gan ddysgu rhywun i beidio poeni sut maen nhw’n ymddangos o flaen eraill. Palete cleanser.

Beth yw eich atgof cynta’? 

Dw i ddim yn rhy siŵr. Ges i fagwraeth hapus iawn yn yr Wyddgrug ac mae gen i rhyw gof o chwarae gyda’r carped brown oedd fel llwyth o bryfaid genwair bach yn Lôn Cae Del. Ond dw i ddim yn siŵr os oedd hynny cyn neu ar ôl i ni symud i Swydd Efrog am gyfnod o ddwy flynedd. Dw i’n cofio cuddio mewn ffrâm ddringo sgwâr rhag staff y feithrinfa achos doeddwn i ddim eisiau tynnu fy sgidiau, paentio gwaelod fy nhraed a rhedeg ar draws darn mawr o bapur gwyn.

Beth yw eich ofn mwya’?

Rhywbeth ofnadwy yn digwydd i fy mhlant.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i’n hoff o ddweud fy mod wedi bod yn hyfforddi tîm pêl-droed y mab ers bron i bum mlynedd, ond y gwir ydi mai dau foi arall sy’n gwneud yr hyfforddi. Glorified ball boy ydw i. Pan fydd un o’r under 12’s yn cicio’r bêl yn bell dros y bar, fi fydd yn rhedeg ar ei hôl hi.

Beth sy’n eich gwylltio?

Un o’r under 12’s yn cicio’r bêl yn bell dros y bar.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Dywedodd rhywun wrtha i rywdro fod cyfeillgarwch fel tyfu blodau: rhaid eu dyfrio’n aml. Fues i erioed yn un am arddio felly tydw i ddim mo’r gorau am gadw mewn cysylltiad. Yn blentyn, roedd waliau fy ystafell yn llawn lluniau o Neville Southall, Ruud Gullit a Diego Maradona… ond wedi’r cyfnod rhyfedd rydym newydd ei brofi, buaswn yn ddigon bodlon yn bwyta hen frechdan sych mewn parc oer a gwlyb cyn belled â fy mod i yng nghwmni hen gyfeillion.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Heb os, y swsys gorau ydi’r rhai fydd un o’r plant yn ei roi out of the blue i mi ar fy moch neu ar fy nhalcen. Dw i’n hoff iawn o sws ar ochr fy mhen uwch ben y glust. Dwn i’m pam. Mae’n well na slap.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

For crying out loud. Mae’r “rying out loud” yn golygu mod i’n gallu cuddio rheg o flaen y plant.

Hoff wisg ffansi? 

Dw i’n meddwl mai’r tro dwetha’ i mi wisgo gwisg ffansi oedd yn y Brifysgol felly dw i’n falch o allu dweud nad ydw i wedi gorfod gwneud y ffasiwn beth y ganrif hon. Er, mi brynes fwgwd Lucha Libre tra’n gweithio ym Mecsico unwaith ac mae gen i bâr o long johns glas llachar a gormod o groen i fy nghorff felly fyswn i’n gallu bod yn reslar gwael o’r enw ‘El Lastico’ yn hawdd.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Un ai trio am ran mewn musical pan oedd fy llais yn torri neu sylweddoli ar ddiwedd sioe Blerwm ar brif lwyfan Theatr Clwyd pan yn 11 oed fod fy nhiwnig wedi codi a bod fy y-fronts gwyn yn disgleirio’n llachar drwy fy nheits.

Parti gorau i chi fod ynddo?

Dw i ddim yn cofio rhyw lawer am y penwythnos wnes i droi yn 30 ond mae pobl yn dal i hel atgofion am y cyfnod hyd heddiw felly mae’n rhaid fod honna’n un dda.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dim llawer. Dw i’n cysgu gyda’r gorau.

Hoff ddiod feddwol?

Fydda i’n hoff o beint o gwrw mewn gwydr mewn tafarn neu lasied o win coch o flaen y tân yn y tŷ. Fy hoff ddiod yw’r llymaid cyntaf o goffi yn y bore heb os. Yn enwedig os fydda i’n ddigon ffodus i fod dal yn fy ngwely.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Stock answer nifer o Gymry: Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros. Wnes i benderfynu ei darllen yn ystod y cyfnod clo cyntaf gan fy mod i wedi clywed cymaint o ganmoliaeth. Da.

Fyswn i wrth fy modd yn chwarae rhan Gwion mewn fersiwn ffilm o’r nofel. Mae gen i ddannedd cam yn barod felly tydi hynny ddim trafferth. Ces i’r fraint a’r pleser o weithio gyda Manon a Gai Toms mewn drama i Gwmni’r Frân Wen sawl blwyddyn yn ôl. Sôn am chwerthin. Drama am fwlio oedd hi a Manon oedd yn chwarae rhan y bwli. Anghofia i fyth o Gai yn taro’i ben-glin mor galed yn erbyn polyn ar y set nes iddo bron â chwydu mewn poen a’r bwli blin yn cyrraedd yn ceisio cuddio gwên tra mod i a Gai a’r gynulleidfa gyfan o blant ysgol yn chwerthin llond ein boliau.

Hoff air?

Mae ‘ffurfafen’ yn un da a fydda i’n hoff o ddweud “six hundred and sixty-six” yn Gymraeg o flaen Saeson.

DAU GWESTIWN BONWS…

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Fod athrawon yn haeddu codiad cyflog. Wnes i fwynhau cwmni’r plant yn fawr yn ystod y cyfnod clo ond does gen i ddim ofn cyfaddef fy mod i wedi cael trafferth eu helpu gyda’u gwaith ysgol. Nid athro mohonof. Fedra i ddim hyd yn oed dweud “cwricwilwm” heb sôn am ei ddysgu fo.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Enw fy nhad yw Joseff. Ail enw Mam yw Mary. Dw i’n dathlu fy mhen-blwydd ym mis Rhagfyr.

 

Stad ar S4C nos Sul am naw a’r holl benodau ar Clic