Yr awydd i sicrhau cyfiawnder a thegwch wnaeth ddenu Fflur Jones tuag at yrfa yn y gyfraith.

Ei harbenigedd yw cyfraith cyflogaeth, ac mae newydd gael ei phenodi’n Bartner Rheoli yng nghwmni cyfreithwyr Darwin Gray yng Nghaerdydd.

Cafodd Fflur ei magu ym mynyddoedd Meirionnydd yng Nghwm Cynllwyd, Llanuwchllyn, ac ers iddi fod yn blentyn mae’n gas ganddi weld pobol yn cael cam.