Fe gewch chi hanesion am lofruddio merch ifanc feichiog, capten llong a’i ferch yn boddi ar greigiau Ynys Enlli, a straeon ysgafnach am ferched yn mynd i’r gwely gyda’i gilydd ar gasgliad diweddara’ Gwilym Bowen Rhys…

Tua 200 mlynedd yn ôl, pan nad oedd yna radio na theledu, heb sôn am y We Fyd Eang, fe fyddai’r Cymry yn derbyn eu newyddion trwy ganeuon.

Fe fyddai baledwyr i’w clywed yn canu am farwolaethau, llofruddiaethau, tybaco, merched yn caru’i gilydd, ac am apêl America i Gymry oedd ffansi antur.

Ac ar ei albwm newydd Detholiad o Hen Faledi II, mae Gwilym Bowen Rhys wedi atgyfodi sawl baled sy’n berl.

Yn wreiddiol yn adnabyddus am ganu a chwarae’r gitâr yn y band roc poblogaidd Y Bandana (2007-2016), mae Gwilym wedi datblygu yn gerddor gwerin hynod sydd wedi hen wneud enw iddo’i hun yn berfformiwr byw, a thrwy ganu gyda’i ddwy chwaer yn y band Plu ac ar broject Bendith Carwyn Colorama.

Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi bod yn pori yn yr archifau am hen faledi i’w canu a’u cyflwyno mewn dillad newydd, ac yn 2018 cafwyd Detholaid o Hen Faledi ganddo.

A dechrau’r mis hwn roedd yn cyhoeddi’r ail gasgliad yn y gyfres, sy’n gyforiog o ganeuon sy’n rhoi darlun byw o sut le oedd Cymru tua chant a hanner i ddau gant o flynyddoedd yn ôl.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae geiriau’r baledi yn goeth, yn gynnil ac yn ddoniol iawn ar brydiau.

Ac mae hi’n amlwg wrth wrando bod Gwilym wedi cael modd i fyw yn chwilio a chwalu drwy’r hen ganeuon, cyn eu recordio mewn un take i’w cyflwyno i genhedlaeth newydd o Gymry gael eu mwynhau.

“Dw i eisiau cyflwyno’r caneuon mor noeth ac mor amrwd â phosib, fel cofnod syml o’r caneuon,” meddai’r canwr yn egluro pam ei fod wedi eu recordio mewn un take.

“Os ydy’r caneuon yma heb gael eu recordio o’r blaen, mae o fwy fel gwneud rhyw fath o gofnod ohono fo, fel bod pobol eraill yn y dyfodol yn gallu dysgu’r caneuon yma, a gwneud eu fersiwns fwy diddorol eu hunain.

“Dyna pam dw i wedi ei gadw fo mor syml â phosib, i gael cofnod amrwd, noeth.”

Faint o waith ymchwil wnaed cyn troi at recordio’r baledi?

“Wel, dw i ddim yn cyfri’r oriau! Ond mae o’n gyfuniad o fynd ar archifau digidol y Llyfrgell Genedlaethol, sydd yn adnodd amhrisiadwy.

“Maen nhw wedi sganio miloedd o hen daflenni baledi ac maen nhw ar gael i’w gweld ar y We. Mae hwnna yn adnodd sydd yn drysor, yn gist sy’n llawn hen farddoniaeth a hen gerddi sy’n disgwyl i gael eu darganfod.

“Hefyd [rydw i wedi bod yn ymchwilio] mewn hen lyfrau a hen recordings.”

O gofio bod dewis mor helaeth o faledi ar gael bellach, beth wnaeth ddenu Gwilym at y deg sydd ar yr albwm newydd?

“Y geiriau ydy’r peth pwysicaf i fi bob tro, efo’r math yma o ganeuon. Mae yna hanesion diddorol, cwpwl o ganeuon sydd yn faledi yn sôn am ddigwyddiadau penodol.

“Mae’r gân gyntaf, ‘Llofruddiaeth Hannah Dafis’, yn sôn am lofruddiaeth ddigwyddodd yn Sir Gâr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hi yn stori wir.

“Mae yna gân arall yn sôn am longddrylliad fferi Ynys Enlli a phobol yn marw ar y creigiau.

“Ac mae yna rai baledi mwy hwyliog…

“Ac mae yna un arall, yn ddiddorol iawn, o’r enw ‘Dwy Ferch Aeth i Ganu’, sy’n sôn, basically, am lesbian foursome!

“Ac mae pethau fel yna yn medru synnu pobol. Rydan ni efo’r darlun yma yn ein pennau o Gymru ar y pryd, cant a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn uffernol o barchus. Pobol capel.

“Ond mae rhai o’r caneuon yma yn dangos ochr arall i fywyd cymdeithasol, ac yn aml iawn fysa’r cerddi yma ddim yn cael eu cyhoeddi mewn llyfrau, achos eu bod nhw yn rhy risque. A fysa’r awduron ddim wedi cael nawdd ariannol i’w cyhoeddi nhw mewn llyfrau.

“Ond roedd eu cyhoeddi nhw ar ddarn bach o bapur, a’u gwerthu nhw ar y stryd am geiniog yr un, roedden nhw yn gallu fforddio gwneud hynny.

“Ac yn ffodus iawn i ni, mae yn cynnwys themâu fyddai fel arall, o bosib, yn cael eu sensro gan bobol capel.”

Mae ‘Dwy Ferch Aeth i Garu’ yn faled gomig sy’n adrodd hanes dwy ferch yn gwisgo dillad dynion, ac yn twyllo dwy ferch arall i fynd i’r gwely gyda nhw. Dyma flas o’r arlwy:

 

‘fe flinwyd cusanu, roedd natur yn gre

a Siani a deimlodd ni enwaf ym mhle

deallodd nad ceiliog oedd gyda hi’n bod

neu fod o’n un hynod a rhyfedd ac od’

 

Yn ogystal ag adrodd straeon am ryw, roedd baledi yn ffordd o gyfleu newyddion i Gymry anllythrennog.

“Rhaid cofio bod papurau newydd yn bodoli ar y pryd, ond nid pawb oedd yn eu prynu nhw,” meddai Gwilym.

“Ac nid pawb oedd yn gallu darllen. Felly roedd y canu yma yn ffordd o ddysgu am y newyddion diweddaraf.

“Ac fe gafodd y gân am lofruddiaeth Hannah Dafis ei sgwennu yn fuan iawn iawn ar ôl y digwyddiad, a cyn i’r person oedd yn cael ei amau o achosi’r llofruddiaeth ymddangos o flaen y llys. Roedd o dal yn y carchar adeg sgwennu’r gân felly doedd y ddedfryd heb ei phenderfynu yr un ffordd na’r llall…

“A wnes i ffeindio mewn erthygl bapur newydd o’r cyfnod, bod un o’r tystion yn yr achos llys wedi dweud: ‘Mae yna rywun wedi sgwennu cân am y digwyddiad. Dw i wedi ei chlywed hi ar y stryd.’

“Ac mae’r barnwr yn dweud: ‘Tydan ni ddim yn defnyddio’r gân yma fel tystiolaeth’.

“Felly mae hwnna yn dangos sut yr oedd y caneuon yma yn cael eu clywed ac yn lledaenu newyddion y dydd.”

Elfen ddifyr arall o hanes y baledi yw bod “lot o’r baledwyr yma yn bobol ddall” eglura Gwilym.

“Yn amlwg, ar y pryd doedd yna ddim optician, felly roedd yna lot mwy o bobol ddall o gwmpas…

“Ac yn y sefyllfa yna, doedd yna ddim lot o opsiynau swyddi i’r deillion yma. Ond beth oedd lot ohonyn nhw yn wneud oedd mynd i berfformio.

“Rhai ohonyn nhw yn delynorion, eraill yn faledwyr ac yn feirdd. Ac mae yna un enghraifft ddiddorol, sef bardd o’r enw Dic Dywyll – tywyll oherwydd ei fod o’n ddall.

“Roedd o wedi sgwennu cannoedd o ganeuon, ac mae dau gant wedi goroesi hyd heddiw, heb sôn am y rhai sydd heb oroesi.

“Ac roedd y caneuon rheiny yn ddeuddeg, pymtheg o benillion o hyd. A rhaid ni gofio bod y boi yn ddall, felly roedd o i gyd yn ei ben o. Roedd o’n mynd allan ar y stryd a’r caneuon hyn i gyd yn ei gof o. Cof anhygoel!”

Mawl i Mericia!

Yn ogystal â’i gefnogwyr yma yng Nghymru, mae gan Gwilym Bowen Rhys ei ffans dros y môr mewn gwledydd fel Awstralia ac America.

Ac ar y casgliad newydd mae ganddo fersiwn o ‘Dowch i’r America’, baled sy’n mynd dros ben llestri wrth frolio pa mor wych a mawr yw’r wlad honno:

 

‘Mae popeth yn Amerig yn fwy na’r byd i gyd

a phe bae’r byd yn faban, Amerig fydda’i grud

mae defnyn o’r Niagra yn filwaith fwy na’r môr

a boddai fyrdd o fydoedd and plenty plenty more’

 

Fe gafodd y geiriau eu sgrifennu gan Richard Davies (1833-1877), sef y bardd ‘Mynyddog’ oedd yn ganwr ac arweinydd eisteddfodol poblogaidd sy’n adnabyddus am sgrifennu geiriau’r caneuon enwog ‘Myfanwy’ a ‘Sosban Fach’.

Nôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd America yn wlad ifanc a phobol yn heidio iddi.

“Efallai bod Mynyddog wedi laru ar bobl yn mynd ymlaen ac ymlaen am faint o wych oedd y Byd Newydd,” meddai Gwilym yn trafod natur ddychanol y gân.

“Efallai fod o’n tynnu coes yr holl frolio yma ac yn mynd dros ben llestri… yn amlwg, ysgafn a gor-ddweud sydd ynddi.”

Un o uchafbwyntiau’r casgliad newydd, heb os, yw fersiwn Gwilym o ‘Deio Bach’.

Dyma faled sy’n cael ei chanu o safbwynt mam sydd heb weld ei mab ers ache ac yn hel meddyliau am le mae o erbyn hyn.

“Mae hi’n gân hyfryd, hiraethus, a thrist mewn un ffordd… jes yn gân hyfryd,” meddai Gwilym.

“Mae honna yn gân sydd wedi ei recordio o’r blaen. Wnes i ei dysgu hi wrth glywed Branwen Williams o Cowbois Rhos Botwnnog yn ei chanu hi.

“Ond rydw i wedi ei chanu hi ar alaw wahanol wnes i ddysgu ar record wnes i brynu mewn siop elusen yng Nghriccieth erstalwm. Rydw i wedi prynu llwyth o hen records, recordiau hen Cymraeg o gantorion clasurol o’r 1920au yn canu efo cherddorfa fach yn cyfeilio.

“A’r alaw ar y record wnes i ddefnyddio, sy’n wahanol i’r alaw gyfarwydd.”

Gigs ag albwm Plu

Mi fydd Gwilym i’w weld yng Ngŵyl y Pethau Bychain gyda bandiau ac artistiaid gwerin eraill rhwng 8-10 Ebrill, ac yn Sesiwn Fawr Dolgellau ym mis Mehefin a’r Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst.

A rhyw ben cyn yr Haf mi fydd yn cyhoeddi’r albwm Tri gyda Plu, y triawd mae’n ei gynnal gyda’i ddwy chwaer, Marged sy’n athrawes ac Elan sy’n fydwraig.