Wedi i Joanna Scanlan gamu ar y llwyfan i dderbyn y wobr ‘Actores Orau’ yn noson fawreddog y BAFTAS nos Sul, a hynny am ei rhan yn y ffilm After Love, fe glywodd y byd hi’n dweud “Diolch yn fawr!”
Fe gafodd yr actores ei magu ym Mangor a Rhuthun a bu ar raglen Iaith ar Daith S4C y llynedd yn dysgu siarad Cymraeg yng nghwmni ei chyd-actor Mark Lewis Jones.
Ac mi fydd hi i’w gweld eto ar S4C ym mis Mai, yn actio yn Gymraeg mewn cyfres newydd.