Yn 2016, roedd Francesca Antoniazzi o Lanfairpwll yn 26 oed, yn chwarae pêl-rwyd i dîm y dref ac yn mynd i’r gampfa bum gwaith yr wythnos. Ond ar ôl cwympo i lawr grisiau awyr agored, torrodd ei chefn a chael anafiadau i’w phen, gan dreulio tri mis yn yr ysbyty yn cael ffisio a hithau wedi’i pharlysu o’i chanol i lawr.