Mae’r baritôn 36 oed o Lundain, Gareth Brynmor John, ar daith gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, yn rhan o gast y sioe Don Giovanni gan Mozart.

Mae yn byw yn ne orllewin Llundain gyda’i wraig Sarah a’u plant Isabel, William a Benjamin…

Pam dewis gyrfa yn canu?

Rydw i wastad wir wedi mwynhau canu, am wn i. Fi yw’r fengaf o dri brawd ac roedden ni’n tri wastad yn canu yn yr ysgol a’r eglwys wrth dyfu fyny.

Byddai ein rhieni yn mynd â ni i’r Tŷ Opera Brenhinol o oed ifanc, pan oeddwn i yn ryw naw oed.

Ac yn yr ysgol uwchradd ges i fod yn rhan o’r corws yn y Tŷ Opera Brenhinol.

Sut ydach chi’n gofalu am eich llais? 

Y peth pwysicaf yw gwneud defnydd da o’r llais pan rydw i yn canu.

Pan rydach chi’n sôn am orfod canu gyda cherddorfa, sy’n gallu bod yn eithaf swnllyd, mae angen hyfforddi er mwyn taflu’r llais yn ddiogel ac effeithlon.

Mae hi’n hawdd iawn straenio’ch llais wrth ganu opera.

Oes yna lot o dalent gerddorol yn y teulu?

Pan roeddwn i a fy mrodyr yn canu yn nhu blaen yr eglwys, mi fyddai fy nhad yn y rhes gefn yn canu.

Sut beth yw mynd ar daith gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru?

Rydw i wrth fy modd. Mae safon y corws a’r gerddorfa a’r holl weithwyr technegol yn hollol wych.

Rydw i wedi cael gwaith ganddyn nhw ers sawl blwyddyn bellach, ac mae gen i ffrindiau da yno nawr.

Wrth gwrs, mae hi’n anodd bod i ffwrdd o adref pan mae gennych chi dri o blant ifanc.

Pwy fyddwch chi’n cefnogi ar y cae rygbi?!

Mae fy nhad yn dod o Bontypridd a bellach wedi ymddeol ac yn byw gyda fy mam yn Llanfair-ym-Muallt, ac mae pawb yn ein teulu ni yn falch iawn o wisgo crysau coch adeg y rygbi!

Beth yw eich hoff opera?

Dw i wrth fy modd gydag unrhyw Verdi a fy hoff ganwr o’r stwff yna yw Renato Bruson.

Beth yw eich hoff atgof operatig?

Rydw i yn cofio cael fy nghyffwrdd i’r byw mewn dress rehearsal o The Flying Dutchman yn 2009, yn gwrando ar Bryn Terfel ag Anja Kampe yn canu deuawd. Ac wrth feddwl am yr atgof nawr, rydw i’n cael croen gŵydd.  

Sut addysg gawsoch chi?

 Yn ogystal â’r canu roeddwn i’n cael gwersi piano ac obo ac roedd yr ysgol yn gerddorol iawn.

Roedd yna fand pres hefyd, a doedd neb ar gael i chwythu’r tiwba, felly ges i orchymyn ar ddiwedd tymor yr haf i ddod nôl wedi’r gwyliau yn medru chwarae’r tiwba!

Roeddwn i yn chwaraewr rygbi llugoer, ac yn falch pan ddaeth y cyfle i roi’r gorau iddi a chanolbwyntio ar chwarae tenis bwrdd!

Beth sy’n codi’r mwyaf o ofn arnoch chi?

Rydw i wrth fy modd yn nofio yn y môr, ond mae gofyn i mi weithio yn galed i anghofio am yr holl bethau sy’n nofio yna – yn enwedig sglefrod y môr.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw yn heini?

Yn ystod y cyfnod clo doedd dim gwaith felly wnes i gychwyn adeiladu estyniad i’r gegin – a dim ond cychwyn arni oedd fy mwriad. Ond yna aeth y clo ymlaen ag ymlaen, a wnes i fwy neu lai ei orffen fy hun.

Wnes i orfod tyrchu lawr i’r ddaear er mwyn gosod y seiliau gyda rhaw, a chario’r pridd drwy’r tŷ am nad oedd llwybr ar hyd yr ochr. Gwaith caled!

Beth sy’n eich gwylltio?

Y crebachu ar wersi cerddoriaeth a drama ag ati yn yr ysgolion.

Pwy fyddech chi’n gwadd i’ch pryd bwyd delfrydol a beth fyddai ar y fwydlen?

Clement Attlee ac Aneurin Bevan.

Bydden i yn coginio cyri ghosht cig oen gyda’r trimings i gyd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Sarah wrth gwrs! Rydan ni gyda’n gilydd ers pan oeddwn i yn 17.

Pa ddywediad ydych chi’n defnyddio yn aml?

‘O wel, ta waeth.’

Rhaid cael croen fel eliffant wrth fynd i glyweliadau, ac yn aml iawn chewch chi mo’r gwaith.

A fedrwch chi ddim gadael i hynny eich siomi, neu wnewch chi ddim para yn hir iawn!

Parti gorau i chi fynychu? 

Mae rhwydweithio yn bwysig yn y byd opera, ac rydw i yn aml yn diweddu fyny mewn partis gyda phobol rydw i wedi addoli o bell. Mae yn hollol wych cael cyfarfod y bobol yma.

Gwyliau gorau?

Ryden ni yn mynd i Anghiari ar y ffin rhwng Tuscany ac Umbria [yn yr Eidal].

Fe aethon ni yno yn wreiddiol i ganu mewn gŵyl gerddorol, ac wedyn dychwelyd bob blwyddyn am fod y lle mor hyfryd.

Tydi o ddim yn rhy ffansi, dim ond hen feudai fferm sydd wedi eu troi yn fythynnod gwyliau bach, ac mae yna deras a phwll yn edrych allan dros ddyffryn lle maen nhw yn tyfu tybaco.

Ac mae’r Eidalwyr mor hyfryd wrth groesawu teuluoedd.

Beth sy’n eich cadw yn effro gyda’r nos?

Dim byd. Rydw i yn barod am fy ngwely fel arfer!

Hoff ddiod feddwol?

Rydw i yn hoffi peint o gwrw chwerw St Austell Tribute sy’n cael ei fragu lawr yng Nghernyw.

Hoff lyfr?

Wna i fyth flino ar Three Men in a Boat gan Jerome K Jerome. Mae yn gwneud i mi chwerthin o’r dechrau i’r diwedd.

A gan fy mod i wedi fy magu ger yr afon Tafwys, mae yn teimlo yn gyfarwydd.

Ac mae’r bennod gyntaf i gyd am gymeriad sy’n deiognosio ei salwch, a dyna’r math o beth rydw i’n hoffi gwneud!

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Fedra i adrodd talpiau sylweddol o ddeialog ffilmiau James Bond.