Holi’r bêl-droedwraig sydd ar fin cynrychioli Cymru
Mewn rhai wythnosau, bydd Casi Gregson o Lanbed yn cynrychioli ei gwlad am yr eildro wrth chwarae i dîm merched Cymru dan 16.
Yn y cyfweliad fideo gydag Ifan Meredith ar Clonc360, mae Casi yn rhannu ei ‘top tip’ i lwyddo mewn pêl-droed, sef “rhoi popeth mewn i bob gêm. Dewch oddi ar y cae yn gwybod eich bod wedi rhoi cant y cant ac fe gewch chi’r clod.”
Cyfweliad fideo â’r bêl-droedwraig sydd ar fin cynrychioli Cymru am yr eildro.
Dathlu Gŵyl Dewi
Roedd pobol Bangor yn dathlu’n gynnar – ac mae William Owen wedi rhannu lluniau arbennig o’r cyntaf o sawl diwrnod o weithgareddau i ddathlu Gŵyl Dewi ar BangorFelin360.
Fuoch chi’n dathlu, neu oedd digwyddiad mlaen dros y penwythnos? Rhannwch holl hwyl yr ŵyl ar eich gwefan fro!
Areithiau grymus a syniadau ymarferol dros Wcráin
Dros y penwythnos daeth torf o 100 a mwy ynghyd ar fyr-rybudd ar Sgwâr Glyndŵr, Aberystwyth, i ddangos cefnogaeth i annibyniaeth a democratiaeth Wcráin.
Cafwyd araith rymus gan Faer Aberystwyth, y Cynghorydd Alun Williams, a nododd y tebygrwydd rhwng Wcráin a Chymru a’r modd y mae gan y ddwy wlad ddwy iaith.
Esboniodd sut roedd celwydd Putin wedi ceisio rhannu’r wlad a drysu’r gymuned ryngwladol. Fel Cymro, cydymdeimlodd â dyhead pobl Wcráin dros ryddid i’w gwlad a gweithio mewn byd sy’n cydweithio o fewn sefydliadau mwy.
Mwy am y rali a’r areithiau ar BroAber360.