Mae Siôn Russell Jones yn chwip o ganwr-gyfansoddwr a gitarydd, gyda’i ganeuon wedi eu chwarae ar raglenni Eastenders, Corronation Street a’r ddrama deledu Stella ar Sky…
Ers dod i’r amlwg yn perfformio caneuon bluegrass sionc yn y ddeuawd Ginge & CelloBoi, mae’r cerddor Siôn Russell Jones wedi mwynhau llanw a thrai yn y byd recordio cerddoriaeth.
Bu yn teithio yng ngwledydd Ewrop, America a Japan, ac fe gafodd ei albwm gyntaf, And Suddenly…, groeso brwd nôl yn 2010.
Ond ers hynny mae ei yrfa gerddorol wedi bod i fyny ac i lawr.
“Mae highs a lows wedi bod,” meddai’r cerddor 35 oed o Gaerdydd.
“Ar un pwynt roeddwn i yn cael eithaf lot o air play ar Radio 1, ac roedd pethau i weld yn mynd ar upward trajectory!
“Ond ie, rydych chi’n cael eich dropo gan record labels ac mae managers yn mynd a dod, ac mae e’n fusnes anodd iawn i nafigetio trwyddo.”
Un peth sydd wedi aros yn gyson yw talent Siôn – mae yn chwip o gitarydd gyda llais canu swynol.
A dechrau’r flwyddyn roedd yn rhyddhau’r gân gospel hyfryd ‘Creulon yw yr haf’ ar label recordiau Sain, a dyma’r gân Gymraeg gyntaf ganddo ers sbel.
Daeth ei unig EP o ganeuon yn ei famiaith, Tŷ’r Stafell, yn 2014.
Fe ddychwelodd at gyfansoddi yn Gymraeg yn dilyn marwolaeth ei Dad yn 2018.
Roedd Terry Dyddgen Jones yn Gymro amlwg yn y byd teledu ac wedi cyfarwyddo cannoedd o benodau o Corronation Street.
Bu’r gân er cof amdano mewn drôr am sbel cyn y cyfnod clo, pan ddaeth y cyfle i Siôn ganolbwyntio ar ei gorffen hi.
“Wnes i hala’r gân lan i Sain, jesd cyn y Nadolig, ddim wir yn disgwyl lot,” eglura Siôn, “ond daeth Gwenan [Gibbard] yn ôl ata i a dweud eu bod nhw yn hoff iawn o’r gân, ac yn awyddus i’w rhyddhau hi.
“Ac roedd e’n gyffroes iawn i glywed hynny!”
Mae ‘Creulon yw yr haf’ yn cynnwys llinellau o farddoniaeth gan Terry Dyddgen Jones, geiriau y daeth Siôn ar eu traws yn dilyn ei farwolaeth.
“Yn ystod clirio mas peth o’i stwff e’, wnes i ffeindo cerdd yr oedd e’ wedi ysgrifennu ar ôl colli ei fam e’, ac roedd cwpwl o’r geiriau yna wnes i roi yng ngeiriau’r gân, a defnyddio fy ngeiriau fy hunan hefyd.
“Felly roedd e’n poignant bod e’ wedi cyfrannu mewn ffordd i’r geiriau, heb wybod bod e’ wedi.”
Cân gospel acwstig yw ‘Creulon yw yr haf’, sy’n cychwyn gyda Siôn yn canu ‘Rhaid bod yn wrol, mae ein poen ni yma nawr, mae yn rhaid bod yn wrol, wrth ymyl golau’r wawr’.
Mae’r geiriau yma yn cyfeirio at y ffilm Bydd Yn Wrol y gwnaeth Terry Dyddgen Jones ei chyfarwyddo yn y 1990au, ffilm oedd yn cynnwys Matthew Rhys yn nyddiau cynnar ei yrfa actio.
“Roedd honna yn un o’r ffilms cyntaf iddo fe gyfarwyddo,” eglura Siôn, “ac roedd y ffilm ei hunan wedi gwneud argraff fawr arna i…
“Felly mae yna lot o gysylltiadau bach yn y gân, at y sefyllfa…”
Mae teitl y gân – ‘Creulon yw yr haf’ – yn cyfeirio at Haf crasboeth 2018 pan fu farw Terry Dyddgen Jones.
Ond nid cân drist mohoni – mae yna obaith a thynerwch hyfryd ynddi, a’r diweddglo yn iwfforig.
“Mae’r teimlad yna yn digwydd lot mewn caneuon gospel,” meddai Siôn, “ac rydych chi’n gwybod pan rydych chi’n clywed e’, achos mae e’n spiritual iawn ac mae yna lot o hiraethu yn y geiriau.
“Ond hefyd mae yna lot o obaith hefyd.
“Felly, ie, roeddwn i moyn gwneud rhywbeth oedd yn emosiynol, ond oedd hefyd yn eithaf uplifting… mae hi’n gân o’r galon.”
Mae Siôn eisoes wedi bod ar raglen Heno yn perfformio’r gân, ac yn ei thrafod ar sioe’r DJ Huw Stephens ar Radio Cymru.
Ac mae ‘Creulon yw yr haf’ – sydd wedi bod yn Drac yr Wythnos yn ddiweddar ar Radio Cymru – yn un o ganeuon mwyaf poblogaidd Siôn ar spotify.
“Mae hi’n eithaf neis bod pobol yn ffrydio’r gân… ac ie, mae yn neis cael gwneud stwff yn Gymraeg eto.
“A jesd bod yn fwy cynhyrchiol.
“A nawr bo fi’n gweithio gyda Sain, dw i yn credu y bydd mwy o stwff ar y gweill.”
Mae gan Siôn ddigon o ganeuon ar gyfer ei drydydd albwm unigol, gyda chaneuon yn Gymraeg a Saesneg.
Un garw am gitâr
Dim ond saith oed oedd Siôn Russell Jones yn cychwyn strymio’i gitâr gyntaf – ond fe fyddai wedi hoffi cychwyn ynghynt!
“Bob blwyddyn cyn y Nadolig roeddwn i yn gofyn i Mam a Dad am gitâr, ac roedden nhw jest yn rhoi toy guitars i fi, a dw i yn cofio’r siom pob Nadolig o gael beth oeddwn i yn meddwl oedd yn mynd i fod yn gitâr go-iawn, ond tegan oedd e!
“Ond yn y diwedd wnaethon nhw brynu un i fi, a wnes i ddechrau chwarae gitâr pan oeddwn i yn saith, ac roeddwn i yn hollol hooked.
“Doeddwn i ddim yn rhoi e’ lawr o gwbl, yn enwedig pan oeddwn i yn ysgol uwchradd. Roeddwn i yn dod nôl o’r ysgol a chwarae gitâr ambyti pump awr bob nos, tan bod nhw yn dweud wrtha i i fynd i’r gwely!
“Doeddwn i byth wedi bod yn un i chwarae video games na dim byd fel yna, jesd really fewn i chwarae gitâr.
“Ac mae hi wedi bod yn daith ddiddorol, yn teithio i America, Japan ac Ewrop – a hynny yn ddiolch i chwarae gitâr, basically.”
Fe berfformiodd am y tro cyntaf o flaen ei gyd-ddisgyblion yn yr ysgol gynradd.
“Rwy’ jesd yn cofio bod mor nerfus, yn cario fy amp i mewn i’r neuadd i chwarae o flaen yr ysgol yn y bore.
“A wnes i chwarae ‘Money For Nothing’ gan Dire Straits, dw i’n credu roeddwn i yn blwyddyn pump… jesd fi ar ben fu hunain.
“A dw i yn cofio’r moment yn dda a sut wnaeth fy ffrindiau yn yr ysgol ymateb. Roedd o wedi gwneud argraff fawr arna i, gweld sut yr oedd pobol yn ymateb.
“Dyna wnaeth motifeitio fi i gario ymlaen i ddysgu fel i wneud e.
“Mewn ffordd, roedd e’n pivotal moment.”
Gigio gyda Lennon
Mae Siôn Russell Jones yn ffan enfawr o’r Beatles a’u gallu i greu amrywiaeth mor anhygoel o wahanol ganeuon roc a phop.
Ac mae ganddo atgof melys o gigio gydag un o feibion John Lennon.
“Rydw i yn cofio bod yn y Swistir yn chwarae gŵyl o’r enw Fore Noise Festival, ac mae fe’n huge gig, er mai dim ond un llwyfan sydd gyda nhw.
“Mae pawb ar yr un llwyfan enfawr yma. Ac rwy’n cofio cwrdd â Sean Lennon gefn llwyfan, ac roeddwn i wedi cael cwpwl o ddrincs erbyn hyn, a’r peth cyntaf wnes i ddweud wrtho oedd: ‘My name’s Siôn too!’
“Felly, ie, yn amlwg roedd rhaid i fi gael selfie gyda fe, ac roedd e’n foi reit neis.
“Pethau bach fel yna, bysen nhw byth wedi digwydd oni bai bo fi wedi cymryd yr amser i ddysgu sut i chwarae gitâr, a tase Mam a Dad ddim wedi bod yn gefnogol.”
Yn 2011 fe wnaeth Siôn arwyddo cytundeb gyda chwmni cyhoeddi cerddoriaeth BDi Music yn Llundain, ac mae hynny wedi agor drysau i fyd teledu iddo.
“Ges i ganeuon fi wedi eu chwarae ar The Bill, Eastenders, Corronation Street, Stella… ac yn fwy diweddar mae un o caneuon fi yn chwarae ar gyfres Heartland ar Netflix.”
Super Ted
Mae Siôn hefyd mewn band o’r enw Angel Hotel sydd ar fin rhyddhau cân Gymraeg o’r enw ‘Super Ted’.
“Mae’r gân am y cartoon, mewn ffordd, ond mae yn anodd disgrifio fe – fydd rhaid i chi glywed e’,” meddai Siôn.
Mae ei gariad, Carys Elen Jones, yn chwarae bass yn y band, ac “yn arlunydd talentog” sy’n gyfrifol am ddylunio holl stwff Angel Hotel.
Ac o ran y gerddoriaeth, “rydyn ni fel eighties power pop, mewn ffordd, ac yn eithaf retro”.
“Rydan ni’n cymryd ein dylanwad gan film sountracks, ac mae’r caneuon yn eithaf punchy, eithaf catchy.”