“Nawr yw’r amser i gynyddu’r pwysau ar Putin er mwyn adeiladu ar y gwaith arwrol sydd wedi cael ei wneud ar lawr gwlad gan ddinasyddion a byddin Wcráin”
Wrth i luoedd Vladimir Putin straffaglu i gyflawni eu targedau milwrol yn yr Wcráin, mae Adam Price wedi galw am “embargo economaidd cyfan ar Rwsia”.
Bu Golwg yn siarad ag arweinydd Plaid Cymru yn ystod gwylnos y tu allan i’r Senedd, lle’r oedd tua 300 o bobl wedi dod i ddangos undod â’r Wcráin.