Cyfarfod y canwr René Griffiths o Batagonia ysgogodd Sharon Warren i ddysgu Cymraeg.

Newidiodd hynny drywydd ei bywyd, ac mae hi wedi treulio blynyddoedd yn dysgu eraill sut i siarad Cymraeg.

Y llynedd fe gafodd Sharon, sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei phenodi yn diwtor Cymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill, megis ffoaduriaid a mewnfudwyr, gydag Addysg Oedolion Cymru.

Hi yw’r gyntaf i wneud y swydd newydd hon.