O’r sglefrio cyflym i’r cwrlo, ac o’r Slalom Anferth i’r gwibio rhydd, mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing yn cynnig rhywbeth bach i bawb. Ac mae cyfrif Twitter ‘Gemau Olympaidd y Gaeaf’ (@gemauygaeaf) wedi bod yn cynnig y cyfle i ni Gymry Cymraeg ddilyn y campau drwy gyfrwng yr iaith, gan roi sylwebaeth ysgrifenedig ar ffurf trydariadau, a rhai termau Cymraeg am y campau, hyd yn oed.