Mae’r ymgyrchwyr diwylliannol yn hollol gywir. Ffilm afiach yw Snow White and the Seven Dwarves. Hyll o beth. Llygredd yn ein sinemas ac ar y sgrin fach. Sarhad arnom oll. Gwarthus yw Doc, Grumpy, Happy, Sleepy, Bashful, Sneezy a Dopey. Yn wir, nid ydynt yn ddoniol o gwbl.

A beth am y frenhines gas, yn dysgu’r plantos sy’n gwylio’r ffilm sut i wenwyno eraill gan ddefnyddio afal coch? Hollol beryglus!