Mae galw ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ar frys i’r “argyfwng” sy’n wynebu teuluoedd sy’n ceisio cael y cyffur canabis gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol [GIG].

Ers mis Tachwedd 2018 mae canabis at ddefnydd meddygol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ac mae gan rai meddygon yr hawl i’w roi ar bresgripsiwn yn rhad ac am ddim yma yng Nghymru.

Ond mae rhai o feddygon y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyndyn iawn o wneud hynny.

O ganlyniad mae nifer o bobol – gan gynnwys un teulu o Gaerdydd sydd wedi siarad â chylchgrawn Golwg – wedi gorfod troi at feddyg preifat yn Llundain i sicrhau presgripsiwn canabis sy’n costio £1,200 y mis i reoli epilepsi eu mab, Bailey Williams.

Mae Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr dros Lafur, yn gyd-Gadeirydd Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Fynediad i Ganabis ar Bresgripsiwn at Ddefnydd Meddygol.

Yr wythnos ddiwethaf fe ysgrifennodd lythyr at Sajid David, Gweinidog Iechyd Llywodraeth San Steffan, yn dwyn ei sylw at “yr oedi” o ran ei addewid i uwchraddio’r canllawiau, a chynnal treialon, er mwyn hwyluso’r broses o sicrhau canabis ar bresgripsiwn gan y GIG.

Yn ei llythyr, y mae Tonia Antoniazzi wedi ei rannu efo Golwg, mae’r gwleidydd yn cyfeirio at yr “argyfwng” sy’n wynebu teuluoedd, “yn arbennig felly’r rhai sy’n gofalu am blant sy’n dioddef o epilepsi afreolus”.

Mae Bailey Williams o Gaerdydd wedi “cael ei fywyd yn ôl” ers iddo ddechrau cymryd olew canabis, yn ôl ei fam Rachel Rankmore.

“Olew canabis yw’r unig feddyginiaeth sy’n gweithio iddo fo ac sy’n ei gadw allan o’r ysbyty, a drwy hynny yn arbed arian sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.

Mae’r bachgen 20 oed wedi bod trwy’r felin ac wedi cymryd pob un cyffur arall oedd ar gael iddo gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn troi at ddefnyddio olew canabis.

Cyn hynny roedd Bailey Williams yn cael hyd at 100 o ffitiau – bach a mawr – y diwrnod, yn ôl ei fam.

“Yr unig feddyginiaeth sydd wedi ei gadw allan o’r ysbyty ac wedi rhoi ansawdd bywyd iddo yw canabis. Ers cychwyn cymryd olew canabis yn feddyginiaeth mae Bailey wedi gallu mynd i’r ysgol, mynd i nofio, mynd allan yn y gymuned – yr holl bethau wnaeth o golli allan arnyn nhw yn tyfu fyny.”

Mae Rachel a’i phartner Craig Williams, tad Bailey, yn ddibynnol ar ymgyrchoedd codi arian ar gyfer y £1,200 sydd ei angen i dalu yn breifat am werth mis o olew canabis.

Er iddi fynd ar ofyn Llywodraeth Cymru sawl gwaith dros y blynyddoedd, mae Rachel Rankmore wedi methu perswadio gwleidyddion Bae Caerdydd i ysgwyddo’r baich ariannol, eglura.

“Dw i’n gweld cymaint o fai ar Lywodraeth Cymru ac ydw i ar Lywodraeth San Steffan. Dw i’n methu deall pam nad yw pobol sydd mewn sefyllfa freintiedig o ran helpu ddim yn fodlon helpu plentyn sy’n wael.”

Gyda chymaint o bwysau emosiynol ac ariannol ar y rhieni mae ganddyn nhw hefyd bellach eu problemau iechyd eu hunain.

“Dw i’n dioddef meigryn oherwydd straen,” meddai’r fam, “ac yn ystod y cyfnod clo gefais i soraiasis ar fy nghroen i gyd ac mae gen i grud cymalau yn dod rŵan yn fy nhraed ac yn fy nwylo. Mae pwysau gwaed fy mhartner yn uchel ac mae o wedi gorfod mynd ar dabledi. Dw i ar dabledi at iselder hefyd… mae’r poen meddwl yn rhywbeth parhaol.”

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y defnydd o cannabidiol – o dan yr enw Epidyolex – ar gyfer rheoli mathau o epilepsi. Ond dim ond y ffurf bur sy’n cynnwys yr olew o’r planhigyn cyfan sydd o gymorth i gyflwr Bailey Williams, yn ôl ei fam.

Yn ei llythyr at Sajid David mae Tonia Antoniazzi yn ei atgoffa bod NICE wedi rhoi “eglurhad pellach” o’r canllawiau ym mis Mawrth 2021, “sy’n dweud yn glir: ‘does yna ddim argymhellion yn erbyn y defnydd o gynhyrchion meddygol yn seiliedig ar ganabis’.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “yn disgwyl i weithwyr iechyd ystyried yr holl dystiolaeth a chanllawiau cydnabyddedig cyn rhagnodi unrhyw feddyginiaeth”.

Ychwanegodd, bod “trefniadau ar waith” i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ystyried rhoi meddyginiaeth sydd heb ei drwyddedu”.

Craig Williams, Rachel Rankmore, Bailey Williams a’i frawd Ross Williams

Canabis “yn costio ffortiwn” i deuluoedd

“Mae yna ddiffyg dealltwriaeth o’r hyn mae’r teulu yn gorfod mynd drwyddo,” meddai Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, wrth drafod y sefyllfa gyda Golwg ddechrau’r wythnos.

Mae’r gwleidydd Llafur o’r farn “bod yna amharodrwydd ceidwadol o fewn y gymuned feddygol i ddweud fod y cyffur yma’n ddiogel, ei fod yn cael ei ddefnyddio,  ac y dylai fod ar gael ar bresgripsiwn gan yr NHS – ar gyfer unrhyw un sydd ei angen o mewn gwirionedd.”

Yn ôl Kevin Brennan, “y cam cyntaf sydd ei angen yw [cyd-weithio] rhwng y ddwy lywodraeth, ynghyd â’r gymuned feddygol, er mwyn sortio hyn allan unwaith ac am byth! Ac i roi’r ymdrech, a’r adnoddau i mewn ar gyfer gwneud hynny”.

Fel arall, meddai, mae teuluoedd “yn wynebu cael eu distrywio yn ariannol [am] fod presgripsiwn preifat yn costio ffortiwn”.

Rachel Rankmore a Kevin Brennan AS

“Dim yn deg” ar deuluoedd

Mae rhieni Bailey Williams o Gaerdydd yn aelodau o’r ymgyrch ‘End Our Pain’ sy’n brwydro dros sicrhau canabis ar bresgripsiwn i blant a phobol sy’n dioddef o epilepsi.

Olew canabis

Peter Carroll yw Cyfarwyddwr End Our Pain ac mae o’n cymharu’r sefyllfa sy’n bodoli “fel rhywbeth allan o Yes Minister!” meddai, yn cyfeirio at y rhaglen deledu dychan am wleidyddion sy’n methu rhoi eu polisïau eu hunain ar waith.

Mae o’n credu fod Llywodraeth San Steffan “o blaid rhoi canabis i gleifion – neu pam arall eu bod nhw wedi newid y gyfraith?

“I raddau dw i’n meddwl fod bai ar bawb – Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal â’r llywodraethau datganoledig. A fedra i ddim credu fod hyn tu hwnt i’r rhwydwaith meddygol mwyaf soffistigedig ar y blaned mwy na thebyg – sef yr NHS.”

Yn nhyb Peter Carroll, “dyw hi ddim yn deg ar y teuluoedd fod y llywodraethau yn dweud i bob pwrpas mai penderfyniad i’r meddygon ydi o. Wedyn maen nhw’n dweud: ‘does yna ddim digon o dreialon’”.

Cafodd y gyfraith ei newid yn dilyn pwysau gan lawer o rieni plant yn Lloegr sy’n dioddef o epilepsi, eglura.

“Ond er bod y gyfraith wedi newid dydyn nhw ddim yn gallu cael mynediad ato fo! Mae’r rhieni yma yn cael eu pasio o un lle i’r llall.”

Yr unig beth sy’n “gyson” yn hyn oll “yw’r bobol sydd wirioneddol angen y feddyginiaeth yma, ac sydd wedi profi tu hwnt i unrhyw amheuaeth ei fod o’n gweithio!”

Dioddef “anafiadau difrifol” wrth gael ffit

Dim ond dyflwydd a hanner oed oedd Bailey Williams pan gafodd ei ffit epilepsi cyntaf, yn ôl ei fam Rachel Rankmore.

“Yn wreiddiol fe ddywedwyd wrthon ni mai confylsiwn oedd o – math o ffit mae llawer o fabanod yn dueddol o gael. Ond fe waethygodd a dechreuodd gael ffitiau bob wythnos.”

Er iddo gychwyn ar feddyginiaeth ar gyfer y ffitiau, fe waethygodd Bailey nes ei fod yn dioddef o’r cyflwr bob dydd.

“Roedd y ffitiau yn dod yn gyflym ac yn gryf – bob math o ffitiau. A bryd hynny roedd [Bailey yn] cwrdd â bob un garreg filltir o ran dysgu rhifau a lliwiau yn Gymraeg.”

Ond buan iawn yr arafodd ei ddatblygiad, yn ôl ei fam.

“Roedd ei ansawdd bywyd yn pylu gan nad oedd yn gallu gwneud fawr ddim oherwydd y ffitiau. Yn wythnosol roedd o’n gorfod mynd mewn ambiwlans i’r ysbyty ac aros yno a chael ei bwmpio efo cyffuriau nes bod ei gorff yn cau i lawr.”

O fewn dim roedd y meddygon yn dechrau rhedeg allan o’r mathau gwahanol o gyffuriau epilepsi oedd ar gael iddynt i geisio rheoli cyflwr Bailey.

“Ac roedd sgil effaith dychrynllyd i rai ohonynt,” meddai ei fam.

“Roedd o’n colli ei wallt a doedd o ddim yn gallu siarad na cherdded, roedd ganddo rash o’i goryn i’w sawdl,”

Yn fewnwythiennol oedd y cyffuriau yn cael eu rhoi i Bailey bob wythnos, ac mewn cadair olwyn fyddai’r teulu yn ei gludo allan o’r ysbyty ar ôl iddo dderbyn y driniaeth.

Ond doedd y cyffuriau ddim yn rheoli’r epilepsi ac roedd rhaid i’r bachgen bach ddechrau gwisgo helmed, “am y byddai’n cael ei luchio o un pen yr ystafell i’r llall pan oedd o’n cael ffit [fawr] ac yn dioddef anafiadau difrifol,” meddai Rachel Rankmore.

Yn saith oed cafodd Bailey Williams wybod fod ganddo’r syndrom Lennox-Gastaut sydd, yn ôl ei fam, “yn ffurf o epilepsi difrifol sy’n wydn i gyffuriau. Mae hynny’n golygu fod cyffuriau yn gweithio am ychydig cyn bod angen troi at fath arall, ac wedyn un arall…”

Yr unig opsiwn wedyn oedd rhoi dyfais i mewn i frest y bachgen bach gyda gweirynnau yn gysylltiedig i’w ymennydd, eglura ei fam mewn llais crynedig.

“Mae yna risg uchel o roi’r driniaeth yna ac rydym yn ddiolchgar fod hynny wedi gweithio ar gyfer y ffitiau bach, ond nid ar gyfer pob un.”

Bu i’r teulu ddod i ben eu tennyn heb wybod lle i droi.

“Roedd Bailey yn dal i gael ei gludo ar frys i’r ysbyty, goleuadau glas yn fflachio, tiwbiau yn mynd i mewn i’w gorff ymhobman.”

Erbyn 2016 doedd Bailey Williams ddim yn ymateb i unrhyw driniaeth, ac mae ei fam yn cofio niwrolegydd yn dweud wrthi: “Dydan ni ddim yn gwybod os bydd Bailey yn deffro o gwbl neu os bydd o’n deffro yn fachgen gwahanol. Dydan ni ddim yn gwybod os mai’r ffitiau sydd wedi achosi hyn ta’r nifer o gyffuriau rydan ni wedi ei roi i geisio rhoi stop ar y ffitiau.”

Bryd hynny, meddai ei fam, “y dechreuon ni ymchwilio i mewn i’r defnydd o ganabis at bwrpas meddygol”.