Os mai ymgais i dynnu sylw oddi ar de-partis ydi’r bygythiad diweddara’ i’r drwydded deledu a’r BBC, mae wedi cynhyrfu dyfroedd dyfnach yng Nghymru …

“Dywedodd y Prif Weinidog [Mark Drakeford] wrth y Senedd yr wythnos hon fod y penderfyniad i rewi ffi drwydded y BBC yn cryfhau’r achos tros roi ei grymoedd darlledu ei hun i Gymru. Wel, amdani te! Bydd rhaid gweithio ar fanylion unrhyw wasanaeth/au newydd ond mae’n rhaid ei bod yn amlwg bellach na allwn ddibynnu ar eraill i wneud hynny. Os ydyn ni o ddifri’ ynghylch dyfodol darlledu Cymraeg, sut allwn ni roi at ei gilydd gynigion arloesol a chyffrous wedi eu creu a’u cyllido gan bobol Cymru?” (Tim Hartley ar thenational.wales)

A pham fod hyn mor bwysig?

“…mae diwedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn creu rhywfaint o fygythiad i fodolaeth Cymru, yn uned ddiwylliannol a gwleidyddol. O ganlyniad, mae yna angen bellach am ffocws gwleidyddol go-iawn ar gryfhau cyfryngau Cymru. Fydd datganoli darlledu ddim yn gweithio os nad oes yna ddarlledu i’w ddatganoli. Rhaid i ni feddwl o ddifrif sut i greu ein cyfryngau Cymreig bywiog ein hunain, sy’n gwasanaethu er budd y cyhoedd.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)

Y cyfryngau sydd wedi datgelu’r gwir am fisdimanars Stryd Downing hefyd ac, wrth i’r gwas sifil Sue Gray holi heddlu Downing Street, mae’n ymddangos, yn ôl Peter Black, eu bod nhw’n gwneud gwell job na’r rheiny …

“Os yw’r plismyn sy’n gwarchod Rhif 10 Downing Street yn rhoi tystiolaeth bod cyfreithiau wedi eu torri gan bobol yn partïo y tu ôl i’r drws, yna rhaid gofyn cwestiynau teg pam na wnaethon nhw ymyrryd, pam na wnaethon nhw roi gwybod i uwch swyddogion er mwyn i ymchwiliad iawn gael ei gynnal… Yr eironi yn yr achos yma yw mai’r swyddogion heddlu hyn ddylai fod yn holi gweision sifil, nid y ffordd arall rownd.” (peterblack.blogspot.com)

A thra bod arweinydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymladd am ei fywyd gwleidyddol, mae yna bryder am golli bywydau go-iawn yn Nwyrain Ewrop. A gwlad fach sydd yn y canol …

“Er yr holl drafod am ideoleg a rhyddid, dyw’r gwrthdaro rhwng Rwsia a grymoedd y Gorllewin yn ddim ond parhad o gystadleuaeth canrifoedd rhwng y pwerau mawr – yn union fel yr oedd trwy gydol y Rhyfel Oer. Ac mae’r anghydfod dros yr Wcráin yn adleisio dadleuon y gorffennol am wahanol ardaloedd a’u dylanwad. Dyw’r Wcráin yn fawr ddim mwy na thegan yn y gêm.” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)

Yn groes i’r arfer, dyma orffen gyda neges drydar o Dwrci (gwlad cyndeidiau Boris Johnson) sy’n tynnu sylw eto at bwysigrwydd rhyddid y wasg a’r cyfryngau ac at wirionedd oesol. Mae newyddiadurwraig o’r enw Sedef Kabaş wedi cael i charcharu am drydar dihareb draddodiadol a hynny, meddai’r awdurdodau, yn cyfeirio at yr Arlywydd  Erdoğan …

“Pan fydd ychen yn dod i’r palas, dyw’r ychen ddim yn troi’n frenin. Ond mae’r palas yn troi’n feudy.”

Does dim angen dweud mwy.