Yn fwy adnabyddus am ganu caneuon indi-roc gyda’i gitâr, mae Dafydd Hedd wedi creu cân ddawns ffynci ar y naw…

Mae’r cerddor Dafydd Hedd wedi rhyddhau clincar o gân o’r enw ‘Atgyfodi’.

Er nad yw dal ond yn 18 oed, mae ganddo gnwd swmpus o ganeuon eisoes dan ei felt. Daeth ei albwm gyntaf, Y Cyhuddiadau allan yn 2019, yr ail albwm, Hunanladdiad Atlas, yn 2020, a’r EP Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd y llynedd.

Ond mae ‘Atgyfodi’ yn bennod newydd yn hanes y canwr ifanc sydd hyd yma yn adnabyddus am ganeuon gitâr roc ac indi.

Cân ddawns yw ei offrwm ddiweddara’, gyda churiadau caled, synau synth-tastig a llais ffynci Dafydd yn plethu i greu sain sy’n berffaith i’r dawnslawr.

Bellach yn astudio Economeg ym Mhrifysgol Bryste ac yn mwynhau’r clybiau nos yno, mae’r boi o Bethesda yn egluro ei fod wastad wedi hoffi arbrofi, ac na ddylai unrhyw un synnu ei fod yn troi at diwns dawns.

“Dim jesd indi oedd y stwff roeddwn i yn ei wneud o’r blaen. Mae yna lot o stwff reggae ar yr albwm gyntaf, a wastad wedi bod ychydig bach o stwff gwahanol.

“Ac rydw i wastad wedi licio cerddoriaeth dawns, yn hoffi gwrando ar Calvin Harris ag ati, gwrando ar lot o gerddoriaeth boblogaidd yn tyfu fyny, a lot o gerddoriaeth electronig oedd o… mae gen i lot o feddwl o gerddoriaeth fel yna.”

Y llynedd mi fuodd Dafydd yn ehangu ei orwelion trwy gydweithio gyda’r DJ profiadol Endaf a’r DJ 19 oed Mike RP ar drac dawns o’r enw ‘Niwl’.

“Wnes i fwynhau dysgu sgiliau newydd efo nhw, ac roeddwn i yn teimlo fel give it a go felly, o ran creu cerddoriaeth electronig. Ac yn barn fi, mae o wedi hollol gweithio allan… a dw i’n deall nad ydy’r cynhyrchu ddim yn berffaith ar ‘Atgyfodi’, ond wnes i ddysgu lot o wylio Endaf yn ei wneud o, a gweld Mike RP yn ei wneud o. Gweld nhw yn trafod ac esbonio i fi beth oedd yn mynd ymlaen.

“Trwy sgwennu caneuon EDM [Electronic Dance Music] efo artist fel Endaf, rwyt ti’n dysgu am steil, strwythur a’r holl deimlad, a beth sy’n gweithio, a beth sydd ddim…

“Mae o fel os fyswn i wedi treulio pythefnos efo rock star, fyswn i yn siŵr o fod wedi dysgu rhywbeth am sut i greu cerddoriaeth roc!”

Ag yntau wedi mopio ar greu tiwns a dawns a disco, ydy Dafydd Hedd yn dal i sgrifennu caneuon roc?

“Ydw, cant y cant!

“Wnes i sgwennu cân o’r enw ‘Rock Star’ ychydig ddiwrnodau yn ôl. Mae o’n sôn am eisiau bod yn rock star a gweld y byd math o beth, ond yn anffodus tydi pawb yn y byd ddim yn medru fforddio cael breuddwydion ag ati, a bod hynny’n rong.

“Felly dw i yn dal i wneud caneuon typical protest indie fi, very rocky.

“Dal i’w wneud o, dal i garu’i wneud o.

“Ond does yna ddim byd yn bod efo gwneud y ddau. Ti’n gallu gwneud y gerddoriaeth electronig yma sydd yn reit newydd a hollol wahanol i’r stwff indi.

“Ag efo ‘Atgyfodi’, mae’r geiriau dal yn bwysig. A dyna be’ dw i’n fwynhau gymaint am greu caneuon, ydy gallu creu geiriau a cyfleu neges drwy gerddoriaeth.”

A beth yw’r neges yn ‘Atgyfodi’?

“Mae o am bobol sydd wedi cael sialens ac amser anodd… a’r teimlad yna dy fod ti yn gweld dy hun yn gwella, o’r diwedd, ac yn gweld gwellhad a goleuni ar ddiwedd y twnel, ac yn gweld dy fod wedi cael dros rywbeth anodd. A pa mor falch, proud, ddyla chdi deimlo achos hynna… ddyla chdi ddim teimlo yn euog am gael y teimladau yna, ar ôl mynd trwy bethau.”

Ar derfyn 2021 fe gafodd Dafydd gyfle i berfformio ‘Atgyfodi’ yn fyw o flaen cynulleidfa yn Nhŷ Tawe yn Abertawe, tra yn cefnogi Morgan ‘Bach o Hwne’ Elwy.

A daeth cyfle eto wrth iddo chwarae gig Dolig clwb nos Copa yng Nghaernarfon, yn cefnogi Phil Gas a’r Band, Bwncath a Jambyls.

“Fi oedd yn cychwyn y noson ac roedd yr ymateb yn dda iawn… roedd yna tua cant yna pan oeddwn i yn chwarae. Pobol yn dawnsio, pobol yn mwynhau, gwên ar wynebau pobol.”

Dafydd Hedd

Atgyfodi yn cymryd amser

Pan gafodd y gân ddawns ‘Niwl’ ei rhyddhau’r llynedd, fe gafodd Dafydd ei synnu gan yr ymateb iddi.

“Wnes i dair cân efo Endaf, ag i fod yn onest, ‘Niwl’ oedd yr un yr oeddwn i yn licio lleiaf, ond wnaeth o wneud yn rili dda.

“Beth oedd pobol yn ddweud ar Radio Cymru, Huw Stephens a’r rheina, oedd bod yna soul a grittiness i llais fi, a bod o dipyn bach yn refreshing.

“Roeddwn i wedi cadw’r grittiness yn llais fi, o ran be’r ydw i’n wneud yn fy stwff indi, ond bod o’n complimentio’r stwff dawns.

“Dyna’r sylwadau roeddwn i’n gael, ac mae o i weld fod pobol yn dweud yr un peth rwan am ‘Atgyfodi’.”

Ydy recordio’r llais canu ar gyfer trac dawns yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd gyda chân roc?

“Ychydig, mae’n siŵr,” meddai Dafydd. “Wnes i gymryd ryw fifty o takes i wneud ‘Atgyfodi’.

“Dim oherwydd bod y canu yn wan na dim byd. Jesd, mae o’n wahanol achos wnes i tripl tracio llais fi ar ‘Atgyfodi’ a ‘Niwl’, sef y ffordd wnaeth Endaf ddysgu fi…

“Dyna be’ mae lot o artistiaid yn y top forty yn gwneud, er mwyn cael y pŵer yna o dan dy lais di, a gwneud iddo swnio yn naturiol…

“Pan dw i’n gwneud cân roc, wna i ryw bump take, a chymryd y take gorau a’i roi o i gyd ar un trac.

“Be’ ti’n wneud efo EDM [Electronic Dance Music] ydy cymryd tri take, a gwneud yn siŵr bod nhw yn tri take rili da. Felly ti’n gallu bod yna am oriau yn canu’r un peth…

“Ac un trac cryf ydy o, ond bod gen ti lot o backing vocals a bits ‘woa woa wow wow’ fyswn i ddim yn adio at gân roc.

“Efo stwff disco, dw i wedi cael fy nysgu bod angen dal sylw’r gwrandawr bob eiliad ti’n gallu. Os oes yna eiliad mewn cân dawns sydd ddim werth ei wrando ar, ti angen cael rhywbeth yna i lenwi.

“A dw i yn hanner cytuno efo hynna. Mae yna rannau lle mae hi’n iawn cael ychydig bach o fylchau, ac mae bylchau yn rili pwysig o fewn cerddoriaeth.”

Rocar fydd y nesa’

Fake Indie Song’ fydd y sengl nesa’ gan Dafydd Hedd, ac fel mae’r teitl yn awgrymu, cân roc gyda gitârs ydy hon.

Ac mae yna neges bendant yn y gân.

“Dw i ddim yn licio’r ffordd bod ti’n gorfod cael image i fod yn artist indi,” meddai Dafydd, “achos dw i ddim yn mynd i smalio bo fi yn ryw bad boy sydd wedi fflyncio allan o’r ysgol, neu gwisgo beany cap trwy’r adeg a trio bod yn rebal, neu be’ bynnag.

“Dw i’n gwneud cerddoriaeth indi achos mai dyna’r fath o gerddoriaeth rydw i’n licio’i wneud… ac mae’r gân jesd am rhwystredigaeth fi bod yr indie music industry mor ffug… mae o’n gwneud fi mor flin, weithiau. Dyla fo ddim fod amdan record labels yn cael artistiaid a brands er mwyn gwneud pres.”

Therapi cerddorol

Mae Dafydd Hedd wedi tyfu fyny gyda gitârs mewn gwahanol stafelloedd yn ei gartref, a hynny yn dilyn cyngor gan therapydd.

Ac mae wedi cael budd mawr o greu cerddoriaeth.

Basically, mae gen i autism, ac roeddwn i yn stryglo i wneud ffrindiau ag ati…

“Roeddwn i yn gorfod mynd i ysgolion sbeshal, part time, pan oeddwn i yn boi bach, a gesh i ddim mohoni hi yn exactly hawdd, o ran hynny.

“Ond gen i deulu sydd wedi bod yn rili, rili cefnogol, chwara teg…

“Ac un o’r pethau ddaru nhw wneud oedd music therapy. A beth oedd o oedd bod chdi yn rhoi gitârs mewn llefydd random rownd y tŷ.

“Chafodd o ddim ei fforsho arna fi o gwbl. Ond weithiau, pan oeddwn i yn toddler, fyswn i yn chwarae o gwmpas.”

Erbyn hyn mae’r arbrofi cynnar wedi troi yn yrfa ac mae Dafydd Hedd bellach wedi arwyddo gyda label Bryn Roc, sy’n cael ei redeg gan Morgan Elwy wnaeth ennill Cân i Gymru y llynedd gyda’r tiwn reggae-tastig ‘Bach o Hwne’.

Ac mae Dafydd wrth ei fodd yn cael bod yn stabal roc Jacob.

“O ydw, cant y cant! Ro’n i’n gwajad Cân i Gymru a Morgan Elwy, ac yn meddwl fod o’n rili wahanol, beth wnaeth o ar Cân i Gymru

“Dw i’n rili licio albwm Morgan Elwy, achos mae o’n gallu creu caneuon reggae sy’n hwyl, ond mae o hefyd yn creu caneuon eitha’ gwleidyddol…

“Felly mae o’n grêt gallu gweithio efo pobol sydd yn teimlo’r un peth…

“Dw i’n ddiolchgar iawn am yr help, a fyswn i ddim eisiau gweithio efo neb arall.

“Dw i’n ddiolchgar am gael y siawns ac yn gobeithio gallu profi bod nhw wedi gwneud penderfyniad da i gael fi on board.

“A gobeithio fydda i yn gallu cydweithio efo nhw hefyd, a gwneud cân efo Morgan… fysa hynny yn grêt.

“Achos y mwyaf o collaborations ti’n gallu gwneud, y gorau yn fy marn i, achos rwyt ti jesd yn dysgu gymaint, fel wnes i ddysgu efo Endaf.”