Fa’ma y ces i fy magu.

Dim fa’ma yn union, dim ar yr union lath yma o balmant nac yn yr union dref yma, ond fel hyn yn union y ces i fy meithrin. Mewn côt fawr drom, a het wlân ar fy mhen. Bag ar fy nghefn â fflasg ynddi, ambell frechdan jam ac afal a rhywbeth melys rhag ofn i f’egni i bylu gyda’r llafarganu a’r gorymdeithio. Magwyd fi a’m dwylo’n dynn ar arwyddion mawr, sloganau powld, bachog wedi eu paentio’n ofalus arnyn nhw. Magwyd fi i brotestio.

Tybed p’run fydd fy mhrotest olaf?