Dros y Dolig fe dynnodd y canwr opera Aled Hall lun gwych o leuad llawn yn goleuo Sir Gâr.

Cafwyd ymateb brwd i’r ddelwedd ar Twitter gyda’r gantores Siân Cothi yn gwirioni – “Llun bendigedig,” meddai gan ddisgrifio’r lleuad fel un “syfrdanol o bert”.