Anghofiwch y twrci a’r trimins, y teledu yw prif destun trafod unrhyw Nadolig o werth! Roedd yr operâu sebon, wrth gwrs, yn draddodiadol dywyll, i’n gwneud ni i gyd deimlo’n well am ein ’Dolig ein hunain am wn i. Cafwyd sawl rhaglen ddiogel hefyd, bancars os liciwch chi. Mae cyfresi fel Priodas Pum Mil, Am Dro! a Bwyd Epic Chris yn boblogaidd ac roedd penodau arbennig Nadoligaidd yn sicr o daro deuddeg. Dim byd yn bod ar hynny ond mae’n bwysig p