Y bore wedi Barra

Wrth i ni agosáu at y Nadolig, mae’n wir i ddweud bod y tywydd wedi troi gyda stormydd yr wythnos diwetha’ wedi bod yn her i lawer o Gymry.

Fe lwyddodd Huw Davies i gipio’r difrod ar ardal y Prom, Abersytwyth, gyda’i gamera, a rhannu’r lluniau ar BroAber360.

Y bore wedi Barra 

Huw Llywelyn Evans

Dyma luniau o’r difrod i ardal y Prom toc wedi naw’r bore.

Llyfr yn ysbrydoli traddodiad newydd yng Nghaerfyrddin

Mae teulu bach o Gaerfyrddin wedi cael eu hysbrydoli i ddechrau traddodiad Nadolig newydd. Mae hynny ar ôl darllen y gyfrol Y Parsel Coch, addasiad o fersiwn Almaeneg yn wreiddiol, sef stori Nadoligaidd am roi a derbyn anrhegion.

Mae hosan yng nghartref Alys ac Aaron o Gaerfyrddin, a rhwng nawr a dydd Nadolig bydd pawb yn rhoi rhywbeth ynddi. Gall fod yn nodyn, yn llun, neu’n anrheg fach, unrhyw beth sydd yn rhoi gwên ar wyneb aelod o’u teulu.

Fel yn y gyfrol Y Parsel Coch, cyfrinach yw’r hyn sydd yn yr hosan, tan ddydd Nadolig!

Dillad Nant

Brand dillad Cymreig ydi Dillad Nant wedi’i leoli yn ardal Dyffryn Nantlle, gan gymryd harddwch eu bro fel ysbrydoliaeth.

Cafodd y busnes ei sefydlu yn y cyfnod clo yn gynharach eleni, ac mae wedi llwyddo i ddenu dros 1,000 o ddilynwyr ar Instagram. Mae’r busnes yn cael ei redeg gan y brodyr Jack a Luke Huntly, ac mae mwy am eu gweledigaeth ar DyffrynNantlle360.

Dillad Nant

Yr Orsaf

Cyfweliad gyda Jack a Luke Huntly o Dillad Nant