Wrth i’r tymor Seneddol dynnu i’w therfyn ar gyfer y Nadolig, fe fydd yr aelodau yn cwrdd yn rhithwir yn yr wythnos olaf.

Cyfle i weithio yn eu pyjamas am wythnos fach efallai… ond diogelwch yw’r flaenoriaeth sbo.

Ac am dymor y buodd hi! O daro cytundebau cydweithio i bleidleisiau tyngedfennol ar basys Covid… bydd y gwleidyddion, y journos a’r hacs yn falch o weld taw ar y cecru am y tro.