Beth oedd uchafbwyntiau celfyddydol eleni? Aeth Golwg i holi ambell enw cyfarwydd…

Er gwaetha’r ffaith bod Covid yn dal i fwrw’i gysgod, ac i ni orfod gohirio’r Eisteddfod a’r Ŵyl Cerdd Dant a’u tebyg am yr eildro, dechreuodd y neuaddau perfformio a’r gigs ailagor gan bwyll bach yn 2021.

Un o uchafbwyntiau theatrig 2021 oedd Anfamol (Theatr Genedlaethol) yn yr hydref, drama Gymraeg gyntaf Rhiannon Boyle o Ynys Môn, a gafodd ganmoliaeth frwd. Ar ôl taith awyr agored drama Wyn Mason, Gwlad yr Asyn, ym mis Awst, hon oedd drama gyntaf y cwmni ers y pandemig i deithio i theatrau dan do. Ac fe gafwyd seremonïau Gorseddol eto, yn rhan o’r Eisteddfod AmGen yn stiwdio’r BBC.

Cyhoeddodd Mr (Mark Cyrff) ei bedwaredd albym ar ei liwt ei hun, Llwyth, a Papur Wal eu halbwm gyntaf, Amsar Mynd Adra. Ym myd teledu, pwy all anghofio sgandal Am Dro ym mis Chwefror? Crëwyd dihiryn, a seren, dros nos, ar ôl i’r arlunydd Llŷr Alun chwarae’r gêm ychydig bach yn rhy gystadleuol i rai. Er gwaetha’r fuddugoliaeth ddadleuol, mae ei sesiynau celf campus ar y rhaglen blant Cer i Greu yn awgrymu ei fod yn ddigon tebol i wneud defnydd gwerth chweil o’r wobr o £1,000.

Bu sawl colled drom ym myd y celfyddydau yn 2021. Bu farw’r actor Mirain Llwyd Owen, o’r gyfres Tydi Bywyd yn Boen, yn oerwynt Ionawr, a’r diddanwr Idris Charles yng nghanol haf. Collodd tref Aberteifi dri o’i chewri, David R Edwards, lleisydd Datblygu, a dau frawd Stiwdio Fflach a’r grŵp Ail Symudiad, Wyn a Richard Jones. Bu farw’r drymiwr Charli Britton o’r grŵp eiconig Edward H Dafis, y telynor mawr Osian Ellis, a chyflwynydd C2 Radio Cymru, Magi Dodd. A theimlwyd hiraeth drwy’r wlad ym mis Tachwedd ar ôl i ni golli’r awdur a’r actor Mei Jones, y dyn a greodd Wali Tomos. Coffa da amdanyn nhw i gyd.

Podlediad Llwyd Owen a Leigh Jones, Ysbeidiau Heulog

Aeth Golwg i holi ambell enw cyfarwydd am uchafbwyntiau celfyddydol y flwyddyn a fu…

Alun Davies, awdur

Mae yna sawl peth dw i wir wedi mwynhau, fel cyfres Yr Amgueddfa ar S4C, a phodlediad Ysbeidiau Heulog Llwyd Owen a Leigh Jones. Ond yr un sy’n sefyll allan ydi sioe fyw podlediad The Socially Distant Sports Bar yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd gydag Elis James, Steff Garrero a Mike Bubbins ym mis Hydref. Noson o chwerthin a chwaraeon – be’ sydd well?

Hoff lyfr

Y llyfr wnes i ei fwynhau fwyaf oedd Tu ôl i’r Awyr gan Megan Angharad Hunter, enillydd haeddiannol categori ffuglen Llyfr y Flwyddyn. Mae’n llyfr sy’n llwyddo i bortreadu lleisiau pobol ifanc yn effeithiol, ac mae’r stori yn un ddoniol, afaelgar a thorcalonnus. Mae gen i sawl llyfr ar restr Siôn Corn, gan gynnwys Brodorion gan Ifan Morgan Jones, Bedydd Tân gan Dyfed Edwards a Hela gan Aled Hughes, felly pwy a ŵyr – falle fydd gen i ffefryn arall cyn diwedd y flwyddyn.

Mae Alun Davies newydd gyhoeddi Ar Daith Olaf (Y Lolfa), y drydedd yn ei drioleg o nofelau am y ditectif Taliesin MacLeavy

Gwenan Gibbard, cerddor gwerin

Un uchafbwynt oedd cael canu o flaen cynulleidfa fyw, am y tro cyntaf ers misoedd lawer. Roedd perfformio ychydig o shantis hwyliog efo Meinir Gwilym yng ngŵyl Cwrw Llŷn fis Awst, a’r gynulleidfa y tu allan yn cyd-ganu, yn bleser pur.

Teimlad braf iawn hefyd oedd gweld yr Orsedd yn ôl yn Eisteddfod Amgen eleni – roedd o’n rhyw deimlad llawn cyffro a gobaith bod ein sefydliadau Cymreig, unigryw ni yn dal yma. Y tro nesa’ fydd yr Orsedd yn dod at ei gilydd fydd yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Profiad arbennig iawn oedd mynd i weld y ddrama Anfamol yn Galeri Caernarfon rai misoedd yn ôl. Roedd perfformiad Bethan Ellis-Owen yn ysgubol a’r ddrama yn cyffwrdd rhywun mewn cymaint o ffyrdd gwahanol.

Hoff gân

Roedd clywed Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn chwarae trefniannau Owain Roberts o alawon cerdd dant Gwennant Pyrs yn ddiweddar yn cyffwrdd yr enaid.

Alun Ifans, cyn-brifathro  

Gweithgareddau Cymdeithas Waldo. Mai 20, 2021 – hanner canrif ers marwolaeth Waldo Williams, bardd mwyaf Cymru, yn fy marn i. Fe ges i’r syniad o annog pawb i ddewis eu hoff linell o waith y bardd, eu sgrifennu ar label, a’u hongian fel deilen ar goeden, o gofio mai Dail Pren oedd teitl ei unig gyfrol o farddoniaeth.

Hoff lyfr

Roedd hi’n bleser gallu  helpu’r Prifardd Eirwyn George i hel gwybodaeth ar gyfer y gyfrol Dilyn Waldo eleni. O’r 500 o gopïau argraffwyd tua dwsin sydd gan Eirwyn a finnau rhyngom ni ar ôl. Daeth y nofel Niwl Ddoe (Y Lolfa) gan Geraint Vaughan Jones yn agos iawn – o drwch blewyn – i fod yn hoff lyfr yn 2021, gyda Prydlondeb a Ffyddlondeb: Hanes Cwmni Theatr Maldwyn (Gwasg Carreg Gwalch), Penri Roberts.

Gwawr Edwards, Cantores Opera

 Achos bod cyn lleied o waith cerddorol gyda fi eleni, un uchafbwynt oedd cael cyflwyno’r gyfres radio Swyn y Sul. Aethon ni gyda’r plant i weld Frozen yn Llundain, yn Theatr Drury Lane – mae’r gŵr (Dan Edwards Phillips) a fi wedi canu yn y theatr yna gyda’n gilydd ar daith Only Men Aloud. Roedd hynna’n brofiad hyfryd.

Hoff gân

Dw i wastad wrth fy modd yn canu ‘O Ddwyfol Nos’. Mi wnes i ei chanu yn y Ffair Aeaf, i gyfeiliant David Doidge ar-lein – sy’n athrylith ar y piano. 

Faust+Greta, Cwmni’r Frân Wen

Hedydd Ioan, gwneuthurwr ffilm a cherddor o Benygroes

Trwy fy ngwaith gyda chwmni’r Frân Wen, mi gefais y cyfle gwych i ddogfennu’r broses ar Faust + Greta. Roedd cael gweld cynhyrchiad ar y fath raddfa yn cael ei rhannu yn ddigidol yn fyw o theatr wedi blwyddyn mor anodd yn wefreiddiol.

Hoff gân

Mae ‘10/10’ gan Sywel Nyw a Lauren Connelly yn un o’r caneuon gorau wnes i wrando arni eleni. Roedd y gyfres o senglau a ryddhaodd Sywel Nyw dros y 12 mis gyda 12 artist yn un o’r prosiectau fwya’ diddorol a chyffrous dw i wedi ei weld yn y sîn Gymraeg yn ddiweddar.

Beti George, darlledwraig

Dw i wedi mwynhau cyfres Narcos ar Netflix. A dau lyfr yr Obamas (hi a fe). A rhaglen Ffit Cymru – a finnau’n addo i f’hunan bob dydd i wneud rhyw fath o ymarfer ond yn gwylio yn lle ac yn breuddwydio fy mod i’n un ohonyn nhw. (Llongyfarchiadau i Dylan, Leah, Lois, Bronwen a Sion!) Dw i wedi gweld eisiau cyngherddau byw ac opera. Dim ond dau gyngerdd dw i wedi bod ynddyn nhw mewn 18 mis – y pianydd Llŷr Williams, a cherddorfa’r cwmni opera bythefnos yn ôl.

Beti George yw golygydd y llyfr newydd Datod: Profiadau Unigolion o Ddementia(Y Lolfa)

Gwion Lewis, cyfreithiwr

Dw i wedi gwrando ar gymaint o gerddoriaeth newydd eleni. Mae rhaglen hip-hop a jazz amgen Jamz Supernova ar BBC 6 Music b’nawn Sadwrn yn berl – rhaglen gerddoriaeth newydd orau’r flwyddyn, heb os.

Hoff gân

Mi gawsom ni gȃn bop Gymraeg orau’r ganrif hyd yma: ‘Blwyddyn Arall’ gan Anya. Rydw i wedi chwarae honno 273 o weithiau yn ôl fy ffôn. Chwa o awyr iach – anthem obeithiol, ôl-bandemig heb ei hail sy’n haeddu llawer mwy o sylw.

Mared Llywelyn Williams, dramodydd

Cynhyrchiad sydd wedi aros efo mi ydi The Normal Heart, Larry Kramer yn y National Theatre. Fe’i sgrifennwyd yn 1985 fel ymateb i’r diffyg gweithredu a sylw gan y llywodraeth yn ystod blynyddoedd cyntaf HIV/AIDS yn Efrog Newydd. Drama sy’n ferw o gynddaredd, gweithredu, ond uwchlaw pob dim – cariad. Ynghanol cynhyrchiad dirodres roedd emosiwn y perfformiadau yn eich taro, a pherfformiadau Ben Daniels a Liz Carr yn mynd â gwynt rhywun.

Hoff fideo a chân

‘Esbonio’ ar Hansh. Lauren Connelly yn perfformio cerdd Marged Tudur. Waw. A hoff gân: ‘Tyfu’ gan Magi. Soundtrack melys ar gyfer haf hirfelyn tesog.

Dylan Ebenezer, newyddiadurwr a gohebydd pêl-droed

Y diweddar David R Edwards (gyda Patricia Morgan, Datblygu)

Mae pêl-droed yn gelfyddyd (mae gôl yn ddarn o gelf), felly dyw hi ddim yn sioc mae fy newis celfyddydol o’r flwyddyn yw Euro 2020 (er ei bod hi’n 2021). Mae hi’n amhosib gorbwysleisio’r gwaith gwych mae tîm Cymru yn ei wneud – mae’r iaith Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed ar draws y byd pêl-droed. Ac roedd hynny i’w weld yn glir wrth iddyn nhw grwydro o Baku i Rufain ac Amsterdam yn ystod yr haf. Roedd hi’n fraint dilyn y daith.

Hoff gân

Mae fy hoff gân yn ymwneud ag un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn – marwolaeth Dave Datblygu. Pan ry’ch chi’n colli cymeriad mor ddylanwadol ag e, ry’ch chi’n dueddol o ailwrando er mwyn clywed ei lais, a’i neges, eto. Dw i felly i wedi bod yn blastio popeth, ond Libertino sydd ymlaen fel arfer, a’r gân ‘Rauschgiftsuchtige’ yn dangos Dave yn ei holl ogoniant – blin a briliant.