Ac yntau wedi methu mynd i deithio eleni oherwydd cyfyngiadau Covid, mae’r cogydd Chris Roberts yn dod â blasau o bedwar ban byd i Gymru mewn rhaglen Nadoligaidd arbennig…
Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, fydd Chris Roberts ddim yn gweithio ar ddydd Nadolig eleni, a hynny er mwyn treulio’r ŵyl gyda’i deulu. Dyma fydd Nadolig cyntaf ei ferch fach, Tanwen, sy’n chwe mis oed, ac mae mab ei bartner, sy’n ddwy a hanner oed, “yn dechrau deall dipyn bach mwy am y Nadolig rŵan ac wrth ei fodd. Mae’n amser magical ond exhausting!”
Yn ogystal â bodloni’r plantos, mae’r cogydd o Gaernarfon hefyd yn trïo cadw trefn ar gi bach newydd, Llew, sy’n gyfaill i’w gi Roxy, sydd wedi ymddangos efo Chris ar bob un o’i raglenni teledu dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r flwyddyn a fu wedi gweld newid byd i Chris, sy’n adnabyddus am goginio dros dân agored ac, fel nifer o bobl, roedd y pandemig wedi rhoi stop ar ei gynlluniau.
“Ro’n i wedi cael y syniad cyn Covid i fynd i drafeilio a gwneud gwahanol fwydydd dramor, ond oherwydd y pandemig dw i ddim wedi gallu gwneud hynna. A hefyd mae bywyd wedi newid ers cael Tanwen,” eglura Chris.
Felly bu yn rhaid ailfeddwl – a pha ffordd well o ddathlu’r gwahanol ddiwylliannau yng Nghymru na dod â chogyddion brwd ynghyd sy’n awyddus i rannu bwydydd eu gwledydd eu hunain?
Mewn rhifyn Nadolig arbennig o’i raglen goginio, a gafodd ei ffilmio ger Castell Caernarfon, mae Chris wedi cyd-greu bwydydd o bedwar ban byd gan roi ei flas unigryw ei hun ar y ryseitiau.
Prawn cocktail Nain
Un o’r cogyddion sy’n ymuno â Chris ydy Geoff Miller, cyn-stiward ar long bleser ac sy’n dod o Kingston yn Jamaica yn wreiddiol. Mae wedi teithio’r byd ond bellach yn byw yng Nghaergybi “ar ôl priodi hogan o Ddinbych”, lle mae’n rhedeg bwyty tecawe Cegin Caribî yn ogystal â bod yn ddiffoddwr tân.
“Mae Geoff yn foi difyr iawn,” meddai Chris. “Ro’n i wedi siarad efo fo dipyn dros locdown – roedd o’n ffan o’r ffordd ro’n i’n cwcio a fi’n ffan ohono fo, felly Geoff oedd y boi cynta’ wnes i feddwl am pan o’n i eisiau bwyd o Jamaica ar gyfer y rhaglen. Mae’n ddifyr clywed am ei life story ac mae’n siarad am ei draddodiadau fo dros Dolig.”
Yn ystod y rhaglen mae Geoff yn paratoi pryd traddodiadol o gyri gafr gyda reis a phys tra bod Chris yn paratoi cwrs cyntaf gyda blas Jamaica, sef corgimychiaid wedi’u coginio ar y barbeciw gyda sbeisys a chili.
“Roedd Nain bob amser yn gwneud prawn cocktail ar ddydd Nadolig a dw i wedi cymryd ysbrydoliaeth o siarad efo Geoff a rhoi twist rili cŵl i’r prawns. Roedd llwyth o prawns ar ôl wedi i ni orffen ffilmio ac roedd fi a ’nghariad wedi cael nhw wedyn, ac roeddan nhw’n lyfli.”
KFC ar ddydd Nadolig
Nesaf ar y daith gastronomig oedd coginio bwyd o Siapan. Fe gafodd Chris help llaw gan Noriko Vernon, sydd bellach yn byw yn Llansannan yn Sir Ddinbych gyda’i gŵr, y cerddor Richard, a’u teulu. Rysáit ar gyfer Karaage Cyw Iâr oedd gan Noriko, un a ddysgodd gan ei mam yn Siapan, gyda Chris yn rhoi blas Cymreig i’w bwyd.
“Roedd Noriko yn dweud sut fath o fwyd maen nhw’n bwyta yn Siapan dros Dolig – dydy Siapan ddim yn dathlu Nadolig fel rydan ni,” eglura Chris. “Roedd ganddi storïau rili cŵl am bobl yn bwyta KFC [Kentucky Fried Chicken] ar ddydd Nadolig. Mae’n dipyn o draddodiad yno mae’n debyg ac mae pobl yn gorfod archebu’r bwyd o flaen llaw achos bod yna gymaint o alw.”
‘Nwdls amazing’
Fe deithiodd Chris wedyn i Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf i weld Grace Windle sy’n dod o Ynysoedd y Philipinau yn wreiddiol. Fe sefydlodd hi ei bwyty ei hun, Caffi a Bar Nwdls Kalan, yn y Cymoedd bum mlynedd yn ôl. Ar gyfer y wledd mae Chris a Grace yn paratoi humba porc, sydd wedi’i wneud gyda bol porc ac yn rhywbeth sy’n cael ei goginio yn Ynysoedd y Philipinau ar gyfer achlysuron arbennig.
“Mae Grace yn ddynes rili cŵl. Mae gynni hi fatha caffi sy’n gwneud fry ups i frecwast ond mae hi hefyd yn gwneud bwyd traddodiadol o’r Philippines fel nwdls amazing,” eglura Chris.
Daw’r pwdin o’r Dwyrain Canol gan y ffoadur o Homs yn Syria, Aboga Farka, sy’n paratoi baklava gyda Chris. Dyma bwdin sy’n gyfuniad o grwst filo, cnau pistachio, menyn a mêl.
“Roedd hi’n rili cŵl cwcio efo Aboga, mae’n bobydd amazing. Ro’n i’n gwneud y baklava gyda fo a boi arall o Syria – un yn siarad Arabeg a’r llall yn siarad Saesneg – profiad difyr iawn!” meddai Chris, sy’n dweud mai’r gaeaf yw ei hoff amser i danio’r barbeciw.
“Mae’n well gynno fi barbeciw yn y Gaeaf na’r Haf, ond dim os ydy’n chwythu hurricane, neu’n piso bwrw! Dw i wrth fy modd pan mae’r tywydd yn oerach a ti’n gallu cadw’n gynnes rownd y tân. Mae dal lot o bethau tymhorol fedri di goginio mewn padell ar y tân – mae sbrowts yn amazing ar y barbeciw.”
A beth fydd y wledd yng nghartref Chris ar ddydd Nadolig?
“Dw i’n lyfio twrci. Dw i’n meddwl rhoi o yn y smoker sy’ genna’i achos mae hynna jest yn rhyddhau’r popty hefyd. Mae’n ffordd rili dda o gwcio twrci. Dydy o ddim yn sychu allan ac mae’n rhoi blas smoky a lliw coch rili cŵl pan ti’n cwcio fo dros bren. Dydy pren ddim jest yn danwydd mae o’n ingredient ac yn rhoi blas anhygoel i’r twrci.”
Mae Bwyd Byd Epic Chris ar S4C am naw nos Fercher, 22 Rhagfyr
Rysáit Chris ar gyfer…
Jerc prawn coctel
“Dyma rysáit cyflym ar gyfer prawn cocktail efo thwist. Dw i ddim yn tueddu i ddweud wrth bobl faint o gynhwysion sydd angen – jest go with the flow efo beth bynnag ydach chi’n licio. Mae cwcio, i fi, i gyd am flasu ac ychwanegu pethau fel rydach chi’n mynd…”
Cynhwysion
Pimento (pupur Jamaica)
Hadau cwmin
Fflêcs chili wedi’u mygu [smoked chilli flakes]
Chili Scotch Bonnet ffres
Persli, Rhosmari a Theim ffres
Sibols/Shibwns [spring onion]
Sudd leim
Siwgr brown
Olew olewydd
Rym tywyll o Ynys Môn
Corgimychiaid (bydd angen tynnu’r wythïen berfeddol a gadael y pen a’r cynffon. Fe fydd y siop bysgod yn gallu gwneud hyn)
Sôs Marie Rose
Dull
Pwniwch y pimento, hadau cwmin, fflêcs chili wedi’u mygu, Scotch Bonnet, Persli, Rhosmari a Theim, y sibols/shibwns, sudd leim, siwgr brown, ac olew olewydd mewn pestl a mortar, i greu marinad.
Rhowch y corgimychiaid yn y marinad am 20 munud. Wedyn ffriwch y corgimychiaid mewn padell am gwpl o funudau. Dydych chi ddim eisiau gor-goginio’r corgimychiaid. Defnyddiwch y rỳm i fflamboethi’r corgimychiaid.
Gweinwch y corgimychiaid dros salad, efo sôs Marie Rose, a rhoi’r sudd o’r badell a sudd leim dros y corgimychiaid.