[boddwyd 27 o bobol, gan gynnwys plant a merched beichiog, wrth iddynt ffoi dros y sianel i Brydain]

Ar gyfer heddiw’r bore

rhown y byd yn ei le a gloywi

tŷ â cholfen eleni.

Yn ei gwres cynheswn

ein hesgyrn. Gwisgwn

facyn gwyn yn gof

am ein gyddfau i gau’r gwynt

a’r poen allan drwy’r penillion.

Canwn ganeuon, cynigiwn newid

i’r drefn ac agor drws

i wynebau nad ydym yn eu ’nabod.

Rhannwn groeso eto yn ateb

o’n dwylo ni i deulu

mewn ffydd rhag i gymun ffoi

o’n calonnau a gadael celanedd.

Estynnwn law dros dwyni i lywio’r

cychod brau o’r tonnau taer,

sy’n llusgo eu dwylo i’r dwfn,

ac wylo’r gwynt sydd am geulo’r gwaed.

Trown draethau’r tir yn drothwy

gyda thorch, a gwnawn orchwyl

a bwrw mantell y bore’n

garthen lân arian rhag y niwl,

a rhoi gwres i gynhesu

ysgwyddau dan warrau oer.

Ar gyfer heddiw’r bore rhown y byd

eleni a’n calonnau’n

gyfan i’r baban bach.