Dyma stori fer newydd sbon yn arbennig i ddarllenwyr Golwg gan enillydd Medal Ddrama Eisteddfod AmGen 2021, Gareth Evans-Jones

Roedd y mymryn awel yn mwytho wyneb Gwyn wrth iddo ddringo’r bryn y bore hwnnw. Bu wrthi ers rhyw chwarter awr yn cerdded yn y gwyll, a Sianco, ei gi defaid, yn gwmni iddo. Siaradai Gwyn bob yn hyn a hyn ac ymatebai Sianco yn ei ffordd fach ei hun. Naw oed oedd y ci ac yn y blynyddoedd hynny y bu’n rhan o fywyd Gwyn, daeth y ddau i ddeall ei gilydd i’r dim.

Crynodd ffôn Gwyn yn ei boced ac estynnodd amdani. Prin y disgwyliai neges gan neb y diwrnod hwnnw o bob diwrnod, ac roedd yn llygad ei le, ei larwm oedd yn canu i’w ddeffro cyn y wawr. Ond roedd Gwyn wedi hen godi cyn pob ci yng Nghaer a thu hwnt. Yntau’n llawn teimladau amrywiol: cyffro, fel plentyn ar Noswyl Nadolig; dyletswydd, fel rhyw deimlad o-raid mynd i gopa’r bryn hyd yn oed pe na bai ganddo awydd mynd; ac ofn. Ofn na chyrhaeddai’r union fan cyn deffro’r dydd. Ofn iddo beidio â gwerthfawrogi sioe toriad y wawr yn llawn. Ofn … o bob math.

Mewn difri, fu codi’n fuan erioed yn broblem i Gwyn. Pan oedd yn iau, fe godai’r peth cynta’n y bore a chlwydo’n weddol handi. Ac yntau yn ei arddegau, yn groes i’w gyfoedion, dyheai am gael bod ar ei draed wrth i’r bore ymestyn ei gyhyrau ar ôl noson o gwsg. A phan gafodd ei swydd gyntaf, ei unig swydd mewn difri, daeth yn llwyr gynefin â chodi’n fore, fel gwisgo maneg am law.

Roedd pob diwrnod yn gyfarwydd o anghyfarwydd wrth ei waith. Yr un drefn o ddosbarthu llythyrau o bob math a pharseli o bob siâp, a pheth amrywiaeth yn rhoi lliw i’w ddyddiau – o ran yr hyn a ddosbarthai, ynghyd â’r sawl y deuai i gysylltiad â nhw. Daeth hyd yn oed i ddysgu beth oedd cynnwys gwahanol amlenni ar sail y wybodaeth gynnil a geid arnyn nhw; y cyfrineiriau a ddatgelai dipyn am docyn gyrru, llythyr meddygol, llythyr derbyn i brifysgol, gwŷs i’r llys, a phob math o negeseuon eraill. Ond ei hoff adeg o’r flwyddyn oedd y ’Dolig, pan fyddai cardiau lu i’w rhannu. A dyna’r pryd y gwelai’r ochr ‘ddiddorol’ i bobol ei rownd.

Dyna Mrs Elin Grace, 12, Stryd y Brenin, a’i llais mor llachar ag un llygoden am ran fwya’r flwyddyn, ond yn ystod mis Rhagfyr, yn dipyn o sergeant major, yn gwneud dril wrth ei drws bob amser cinio.

Mr Jacob Kealy, ‘Bron Dderwen’, neu ‘Brawn durween’, chwedl yntau, am y gorau’n derbyn y cardiau ’Dolig ac yn craffu ar y stampiau i weld a oedden nhw’n lân ac yn iawn i’w defnyddio eto. Os oedden nhw, yna diolchai Mr Kealy i Gwyn yn llawen. Ond os nad oedden nhw, edrychai’n gyhuddgar ar y postmon, yn amau’n gryf mai Gwyn a fu wrthi’n sgriblo dros y stampiau.

A dyna Ms Elaine Greendale wedyn. Doedd Hyacinth Bucket ddim ynddi efo’r hen greadures honno. Byddai ar ben ei digon pan dderbyniai gardiau, a byddai’n rhaid i Gwyn aros ar lechen y drws yn llywaeth wrth iddi agor ei chardiau’n ofalus a sylwebu ar y sawl a’u hanfonodd. Er ei bod yn dipyn o deyrn, roedd yna ochr arall i Ms Greendale. Mynnai roi amlen â phapur deg punt ynddi i Gwyn bob blwyddyn, ynghyd â darn go nobl o deisen ’Dolig a’r siars, ‘Make sure you eat! You’re nothing but skin and bone!’ Ac ar ôl hynny, rhoddai’r cardiau ’Dolig a oedd ganddi i’w postio yn nwylo Gwyn iddo fynd â nhw i’r swyddfa ddosbarthu i sbario dipyn ar ei thraed, a hynny wastad dridiau cyn y ’Dolig. Rhesymeg unigryw’r hen Ms Greendale dros wneud hynny oedd nad oedd diben iddi sgwennu ei chardiau ’Dolig tan iddi dderbyn y rhai y byddai’n eu derbyn er mwyn iddi wybod pwy ar ei rhestr oedd yn dal ar dir y byw. Gresyn fyddai wastio cerdyn ’Dolig, yn enwedig a nhwythau mor ddrud!

Fawr o fynedd efo ffys a ffrils

Dylyfodd Gwyn ei ên a chliriodd ei wddw. Roedd Sianco wedi rhedeg ychydig droedfeddi o’i flaen. Troai’r blynyddoedd y bu wrth ei waith yn ei ben fel top o gracyr rhad. Roedd pedair blynedd wedi mynd heibio ers iddo ymddeol. Nid ei fod wedi dewis gwneud, ond awgrymwyd iddo’n llaes gan ei reolwr llinell y dylai ystyried ‘cymryd rhyw seibiant rŵan – ti’n haeddu fo ar ôl gweithio cymaint!’

Gwenu a wnaeth Gwyn. Adeg ’Dolig oedd hynny hefyd, a thinsel yn wincio o gwmpas yr hysbysfwrdd y tu ôl i’r ceiliog dandi o reolwr llinell. Penderfynodd Gwyn yn y fan a’r lle na ddywedai wrth neb ar ei rownd, pe gwelai nhw, pryd fyddai ei ddiwrnod olaf. Doedd ganddo fawr o fynedd efo ffys a ffrils.

A dyna fu. Aeth at bob tŷ, byngalo, fflat a charafán yn ôl ei drefn. Postiodd bob dim, a gosododd oriadau’r fan goch yn ddestlus ar fwrdd ei reolwr llinell.

Fuodd Gwyn fawr o dro’n meddwl beth y gallai ei wneud i lenwi’i ddyddiau ar ôl ymddeol – cerdded. Roedd ganddo Sianco yn gyfaill ffyddlon iddo, roedd ganddo ’sgidiau cerdded newydd, ac roedd ganddo awydd. Boed law neu hindda, aethai o gwmpas y pentref ac ar hyd y llwybrau cerdded. Ond ni âi i fyny’r bryn. Dro-Dolig oedd hwnnw. Wastad wedi bod; ers pan oedd yn ddeuddeg oed. Aethai i fyny’r llethr gyda’i dad cyn gweld beth oedd Siôn Corn wedi’i adael iddo fo a’i rieni. Wedyn, ar ôl colli’i dad, aethai Gwyn i fyny’r bryn ei hun. Bellach, ers naw mlynedd, byddai’n mynd efo Sianco.

Cyrhaeddodd yr union fan ac eisteddodd. A meddyliodd. Pum cerdyn a gafodd eleni. Un yn llai na’r llynedd. Ac anfonodd yntau bump yn ôl; wedi dysgu gwers gan yr hen Ms Greendale. Byddai’n ddiwrnod tawel i Gwyn. Wrth i aelwydydd eraill fod yn llawn cyffro, wrth i blant cynhyrfus rwygo papur lapio presantau, wrth i gyplau rannu llymaid ben bore (wel, tydi’n Ddolig!), byddai yntau’n dychwelyd o’r bryn ac yn paratoi tamaid bach i fwyta. Câi daten drwy’i chroen wedi’i gorchuddio â bîns, a chaws wedi’i sgeintio ar ei phen, a châi Sianco dun cyfan o Pedigree. A byddai’r ddau’n fodlon efo’i gilydd.

Bydden nhw’n siŵr o wylio rhyw ffilm ar y teledu cyn mynd am dro bach arall yn y pnawn, cyn clwydo’n o handi yn y nos, a sioe’r bore’n dal i lenwi eu meddyliau.

Ac, ar y gair, dechreuodd y bore ’stwyrian o flaen Gwyn a Sianco. Arhosodd y ddau yno am sbel, yn dawel, wrth i’r awyr wrido’n biws o goch yn araf, araf bach. Fel amlen cerdyn ’Dolig yn glanio ar fat. A’r cysgod lleuad yn stamp heb sgribl drosto.

A gwenodd Gwyn.

(Mae Gareth Evans-Jones yn hanu o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn, ac yn ddarlithydd Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor)