Ma ’na fynydd a fi’n seiclo.

Bob ochr i fi, ma ’na resi o dai pâr neis, a ma ’na goed ar hyd y palmant. Bythol wyrdd, byth yn newid, bob rhyw ddeng metr ma nhw’n tyfu. Ma’r aer yn newid pan fi’n pasio’r coed. Dim ond tipyn bach, ond fi’n teimlo’r peth, y cyffyrddiad lleiaf ar fy nghlustiau, mwy fel absoneldeb rhywbeth, fel bwlch mwy na dim byd arall. Does dim ceir. Fi’n seiclo.

Ma’r mynydd o ’mlaen i o hyd. Dyw’r stryd ddim yn teimlo fel Cymru, ond Cymru yw’r stryd. Dyw hi ddim yn Gymru fi’n nabod. Mae’n Gymru a alle fod, rywle, rywbryd, ond mae’n Gymru sa’i erioed ’di gweld. Does dim strydoedd fel hyn yng Nghymru. Mae’n rhy wastad a mae’n rhy syth, a ma’r mynydd yna’n codi’n uwch o flaen fi.

A fi’n seiclo, sai’n edrych am yn ôl, dim ond gwthio’r beic ymlaen un cylch ar y tro, pedlo, rownd a rownd, drosodd a drosodd, ymlaen. Ma bachgen o tua’r un oed a fi yn ymddangos; gwallt cyrliog, trwyn smwt. Mae’n chwarae swingball yn yr ardd flaen ac mae’n sylwi arna i’n agosáu.

HEi

Sai’n aros, sai’n dweud dim, jyst seiclo tuag at y mynydd.

hEI

Mae’n galw ar fy ôl ac yn dechrau rhedeg ar hyd y palmant. Mae’n cyrraedd lle ydw i ac yn cadw’r tempo ac yn gofyn:

PaM wYt TI’n sEiCLo

A fi’n ateb. Ma’n llais i fel y llais odd gen i ar un adeg, llai o fyrdwn ynddo, mwy gonest.

Cyrraedd y mynydd yna.

Dw i’n pwyntio ’mhen i at y mynydd. Ma’r bachgen bach yn codi ei aeliau ac yn shiglo ei ben

Ti mYNd i FOd ymHELl MewN i’r nOS cYn BO TI’n

CyRRAedD tOP hwnNA. Ma maM yn dWEud

bO AngeN I fI fOD ADRe ERByN AmseR tE.

Mae’n dechrau sgipio.

LlE Ges Di’r BeIC ynA?

Sai’n ateb y tro hwn. Ma’r bachgen yn mynd ar yn bip i braidd, ac yn siarad gormod, ac yn tarfu ar be fi moyn neud. Mae’n trio eto.

LlE Ges Di’r BeIC ynA?

Fi ’di neud penderfyniad. Sa’i am ateb hyd yn oed os mae’n holi dro ar ôl tro.

PaM So TI’n SiarAD?

Fi’n cadw fy mhen i’n edrych yn syth o ’mlaen a ddim yn talu sylw.

LlE GEs Di’R GraAITH YNa?

Ac wedyn ma pethe’n mynd yn od.

Fi’n troi i edrych ar y bachgen yn iawn am y tro cyntaf, a gweld bod ei goese fe ddim yn symud yn ddigon cyflym. Ma’r ddaear sydd o dano fe’n symud yn rhyfedd, ma ’na bêl swingball yn chwyrlio o amgylch ei ben, ma’i wyneb e’n ymestyn mwy a mwy, a fi’n dal i seiclo ond dyw e ddim yn edrych fel bod e mewn poen. Mae’n agor ei geg a mae’n creu’r agendor enfawr hyll yma, sy’n cuddio’r tai y tu ôl iddo fe. Mae’n gofyn eto:

LlE GEs Di’R GraAITH YNa?

Fi’n stopio’r beic a ma popeth yn dod nôl. Ma’r plentyn yn dal i fwrw’r Swingball rownd a rownd ar y lawnt. Dw i nôl wrth ei dŷ e ar yr un stryd.

Be wedes di am graith?

Be?

Be wedes di am graith?

Wedes i ddim byd am graith, sili. Lle ges di’r beic yna? Ma fe’n cŵl.

Sa’i wir yn cofio lle ges i’r beic.

Pam ti’n seiclo?

Fi’n edrych ar y bachgen eto, ’sdim byd od amdano fe rhagor. Ma’i wyneb e nôl i normal.

Pam so ti’n siarad?

Cyrraedd y mynydd yna.

Fi’n dweud, a pwyntio at y mynydd o ’mlaen

Ma’r bachgen yn codi’i aelie ac yn shiglo’i ben.

Ti mynd i fod ymhell mewn i’r nos cyn bo

ti’n cyrraedd top hwnna. Ma mam yn

dweud bo angen i fi fod adre erbyn amser te.

Ac wedyn mae’n mynd nôl at fwrw’r bêl rownd ar y swingball.

A fi’n seiclo eto, a fi ond yn meddwl am y mynydd.