Roedd y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru ychydig yn rhy hwyr – neu’n rhy anniddorol – i’r rhan fwya’ o flogwyr roi sylw. Ond, hyd yn oed cyn ei gyhoeddi, roedd Dafydd Glyn Jones wedi mynegi ei farn am effaith y cytundeb …
“Fe eglurir inni na fydd yn golygu clymblaid, ond bydd yn rhywbeth digon tebyg i glymblaid gan y bydd yn galluogi’r fwyaf o’r ddwy blaid i eistedd yn fwy cyfforddus. Galwer ef yr hyn a fynner, egwyddor cytundeb fel hyn – egwyddor, a ddywedaf – yw fod cynffon yn ysgwyd ci: y blaid flaenaf yn cadw’i safle, a’r ail blaid yn cael consesiynau.” (glynadda.wordpress.com)
Barn ychydig yn wahanol oedd gan Ifan Morgan Jones, wrth gefnogi’r egwyddor …
“ ‘Fotwich Llafur a chael Plaid. Fotiwch Plaid a chael Llafur,’ meddai un aelod Ceidwadol o’r Senedd wrth ymtaetb i’r cadarnhad fod y ddwy blaid wedi cytuno ar gydweithio. Y broblem efo’r ymosodiad yma yw fy mod yn amau y byddai llawer o bleidleiswyr o’r ddwy blaid yn meddwl: ‘ie, iawn?’… i raddau helaeth, mae gan Gymru ddwy blaid genedlaethol – Plaid Cymru a Llafur Cymru – sy’n rhannu budd ac, o’u rhan nhw a’u cefnogwyr, waeth iddyn nhw weithio efo’i gilydd i gyflawni pethau.” (nation.cymru)
Un peth y mae’r ddwy blaid wedi cytuno arno ydi gweithredu dros ail gartrefi a thai haf. Mae gan Gruffydd Meredith awgrym am yr hyn sydd ei angen …
“Dylai Cymru ddilyn esiampl ynys Guernsey (a llawer o wledydd eraill). Dylai holl dai Cymru gael eu rhannu’n ddau grŵp – gyda 90% yn rhai sy’n rhoi blaenoriaeth i’r farchnad leol/genedlaethol ar gyfer pobol Cymru. Dylai’r 10% sy’n weddill for ar gyfer y farchnad agored a phawb arall.” (nation.cymru)
A’r ateb, meddai Gary Newman o Woodknowledge Wales ydi tai pren …
“Mae ar Gymru angen rhagor o dai a thai sy’n perfformio’n well. Mae ar Gymru angen swyddi lleol i bobol leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae gan Gymru hefyd rai o’r coedwigoedd gorau, yn tyfu coed o’r ansawdd uchaf. Mae pren yn ddeunydd isel ei garbon. Mae modd codi tai pren effeithiol iawn yn gyflym, ar raddfa fawr ac yn fforddiadwy. Mae busnesau pren a choed Cymru – o felinau llifio i seiri i adeiladwyr tai – wedi eu gwreiddio mewn cymunedau, gyda’r potensial i ehangu ac arloesi, gan greu swyddi a datblygu sgiliau yn y mannau lle mae’r angen.” (nation.cymru)
Ond mae un peth nad ydi o yn y cytundeb – annibyniaeth. A John Dixon yn credu bod ganddo fo’r ddadl derfynol i dawelu’r gwrthwynebwyr …
“Ers tro, mae wedi ymddangos i fi fod prif ddadl yr unolaethwyr yn erbyn annibyniaeth – ein bod yn rhy dlawd i fod yn annibynnol ac yn rhy dwp i newid hynny – yn y diwedd yn ei thanseilio ei hun. Mae’n anorfod yn codi’r cwestiwn: os canlyniad 500 mlynedd o undeb gyda Lloegr yw fod Cymru’n rhy dlawd i’w rheoli ei hun… ym mha ffordd y mae’r undeb wedi bod yn beth da?” (borthlas.blogspot.com)