Mae gwaith y dramodydd Gwenlyn Parry yn ddylanwad mawr ar waith enillydd Coron Eisteddfod Ffermwyr Ifanc eleni.

Enillodd Carwyn Jones, o Glwb Rhosybol, y Goron am ei ddrama ‘Disgwyl’ mewn seremoni ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid dros y penwythnos.

Mae’r dramodydd o Garreglefn, sydd bellach yn y byw yn y Felinheli ger Bangor, newydd orffen gradd Meistr mewn Sgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ar ôl dilyn gradd BA yn y Gymraeg yno. Yn rhan o’i gwrs Meistr, astudiodd ychydig ar waith Gwenlyn Parry, awdur dramâu mawr fel Saer Doliau, Y Tŵr, a Tŷ ar y Tywod, yn ogystal â dramodwyr abswrd eraill y Gymraeg, fel Wil Sam ac Aled Jones Williams.

“Ro’n i yn edrych ar y dylanwadau a’r technegau absẃrd sydd yn eu gwaith nhw, yn enwedig Gwenlyn,” meddai. “Ro’n i’n ffan mawr o waith Gwenlyn.”

Er nad yw’r ddrama gyfoes, ‘Disgwyl’, yn cyfeirio at y pandemig na Covid, mae hi’n ymateb i sefyllfa lle mae’r byd wedi gorfod wynebu newid mawr o’r fath.

“Mae yna elfennau abswrdaidd iawn iddi,” meddai Carwyn Jones. “Does yna fawr yn digwydd ynddi – mae’r ddrama fwyaf yn digwydd yn y sgyrsiau a’r ddeialog rhwng y ddau gymeriad.

“Mae dylanwad mawr y pandemig arni, y newid byd yma, a’r pwyso a’r mesur wedyn a ddylen nhw ddychwelyd i’r bywyd cyn y gwrthdaro. Mae yna sôn am y gwrthdaro, ond dydyn ni ddim yn siŵr beth ydi asgwrn y gynnen.”

O ran y ddau gymeriad, mae Guto ar un llaw yn un llawn jôcs, ac yn ddiniwed iawn, a Mair, ar y llaw arall yn benderfynol ac yn arweinydd amlwg o blith y ddau.

“Er ei bod hi’n ymddangos yn galed… fe allwch chi ddibynnu arni i gadw’ch cefn pe bai rhywun yn ceisio siarad yn gas amdanoch,” meddai. “Mae Mair yn ffrind da, a byddai unrhyw un yn lwcus o’i chael yn ffrind. Er ei bod wedi profi bywyd anodd iawn, mae hi’n gryf iawn.”

Mudiad y Ffermwyr Ifanc – “does dim mudiad tebyg iddo”

Mae’r llenor 22 oed yn ddiolchgar iawn i Theatr Fach Llangefni am y profiadau mae wedi eu cael yno, yn perfformio mewn dramâu “ers blynyddoedd maith”. Ar y cyd â’r llenor Caryl Bryn, mae wedi sgrifennu pantomeim y Theatr eleni, Helynt yn Halibadŵ, a fydd yn agor yr wythnos nesaf.

“Maen nhw’n rhoi’r cyfleoedd amhrisiadwy yma i bawb yn y gymuned yn Ynys Môn, ac yn Llangefni yn enwedig,” meddai.

Er nad yw wedi ei fagu ar fferm, mae nifer o’i deulu yn ffermio ac mae’n ddiolchgar am y profiadau diwylliannol sydd ar gael drwy fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. “Does yna ddim mudiad tebyg iddo,” meddai. “Ro’n i newydd ddod oddi ar y llwyfan ar ôl y seremoni, ac roeddwn i yn mynd yn syth wedyn i newid i wisg gweinidog i gymryd rhan yn y sgetsh. Mae o’n dangos faint o gyfleoedd sydd yna ynghlwm â’r mudiad.”

Roedd Carwyn Jones hefyd yn fuddugol eleni ar y gystadleuaeth Stori a Sain gyda Manon Rowlands, ei gyd-aelod yng Nghlwb Rhosybol.

Ianto Jones, llenor 25 oed o Felin-fach, Ceredigion, a enillodd y Gadair gyda’i gywydd am ffoaduriaid o dan y teitl ‘Ffin’. Sir Clwyd a oedd â’r marciau uchaf ar ddiwedd y cystadlu ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid nos Sadwrn.

 

Disgwyl

Dyma flas ar ddrama Carwyn Jones a enillodd Goron Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yng Ngheredigion dros y penwythnos…

Guto: Fyddi di’n meddwl am farw weithia?

Mair:  (saib) Byddaf, weithia’.

Guto: Finna’ ‘fyd.

(saib)

Guto: Ella fod hyn yn od, ond does gen i fawr o ofn marw.

Mair:  Na finna chwaith, i be’ ei di i boeni ynde.

Guto: Wel, d’i o fawr gwahanol i hyn rŵan ma’siwr.

Mair:  Ym mha ffor’?

Guto: Wel, t’bo… ista’n fa’ma drw’ dydd yn g’neud fawr ddim. Fawr gwahanol i ista ar gwmwl yn y nefoedd ma’siwr nadi?

Mair:  Pa ffantasi ’di hon felly?

Guto: Nid ffantasi, jest dyna ydi marw ynde.

Mair:  Ti’n meddwl? (troi arno ychydig) a ti’n meddwl fod ’na Dduw yn rhoi’i ddwylo allan yn barod amdana ti i dy gofleidio di’n dynn a dy gymryd di i’r nefoedd pan mae dy dro di i gicio’r bwcad yn dod wyt?

Guto: Wel, ella nid mor ddramatig â hynny, ond rwbath tebyg ma’ siŵr.

Mair:  Blydi hel, tyfa fyny nei di. Sut fedri di goelio hynny, pan mae’r un dwylo nefolaidd yna wedi creu’r holl lanast yma ’da ni’n byw ynddo rŵan? Bullshit!

Guto: Nid Duw greodd y llanast yma naci!

Mair:  Pwy ’lly? Satan?

Guto: Wel ella… ond mae’r llywodraeth ar fai tydi.

Mair: Yndi siŵr, llawn blydi clwydda. A lle ma’ nhw gyd rŵan ti’n meddwl? Champion mewn ryw penthouse yn rwla ma’siwr, yn sipian coctels efo dy Dduw di masiwr.

Guto: Coelia di be lici di, ac mi goelia inna be ’dw i isio. Beth bynnag, fydd na’m angen poeni am farw am hir eto nafydd.

Mair:  Pam felly?

Guto: Wel, marw’n hen ma’ pobl gan amla’ ynde.

Mair:  Ma’ pobl yn gallu marw’n ifanc hefyd sdi, ifanc iawn.

Guto: Yndi, mi wn i. Ond go brin ma’ hynny’n digwydd ynde.

Mair:  (cadw’i hun yn brysur, ddim yn edrych arno) Ti’n meddwl? (dan ei gwynt) blydi clueless.

Guto: Be’?

Mair:  (Gwylltio – gweiddi arno) Dim Guto, dim! Jest taw nei di, chdi a dy hen siarad Beibl, pawb yn hapus, neb yn diodda’. Tyfa fyny nei di. ’Da ni’n oedolion rŵan, yn byw yn y byd go-iawn. Mae’n amser i chdi agor dy lygaid i’r shit sy’n mynd ymlaen yn y byd’ma, yn lle meddwl bod bob dim yn berffaith, pawb yn hapus ac yn marw’n heddychlon yn eu cwsg yn eu wythdega’. Ma pobl yn diodda’, babis yn marw, pobl yn eu hugeinia’ yn marw o ganser. Dim jest hen bobl sy’n marw, Guto.

Guto: Mi wn i, ond…

Mair:  (torri ar ei draws) Ond be?

(saib hir – nid yw Guto’n ateb)

Mair:  Na, oni’n ama.

(saib hir iawn rhwng y ddau, mae’r awyrgylch yn annifyr)

Guto: Sori.

Mair:  (yn bigog) Be?

Guto: Sori. Sori am edrych ar betha’ mor naïf, mor ddiniwad.

Mair:  Taw! Mae’n iawn. Fi sy’n snapio yn rhy hawdd.

Guto: Am be?

Mair:  Dwnim? Jest gwylltio ar ddim. Mae bywyd yn greulon tydi. Ella ddim mor greulon i chdi, ond mae bywyd yn greulon i mi, a felly ’dw i’n gwylltio pan ’dw i’n cl’wad pobl yn sôn am ba mor wych ydi’u bywyda nhw. (saib) Sori.

Guto: Mae’n iawn siŵr, paid â phoeni am y peth. Peth od ydi bywyd ynde.

Mair:  Ti’n deu’ ’tha fi.

Guto: Be ddigwyddodd ’lly?

Mair:  Be?

Guto: Be ddigwyddodd i chdi?

Mair:  Pam ti’n gofyn hynna?

Guto: Wel, chdi ddudodd, bod bywyd yn greulon.

Mair:  Wel mae o tydi, ti’m yn meddwl?

Guto: Rhei agwedda’ ohona fo ma’siwr, ond nid bywyd yn greulon ddudis di. Mae bywyd yn greulon i mi, dyna ddudis di, dy fywyd di.

Mair:  Ia?

Guto: Wel, pam felly?

Mair:  Achos mae o, ac mae’n amlwg dy fod ti ’di cael dy folicodlio i’r fath radda’ nes dy fod ti ’di anghofio sut mae siarad yn gall efo oedolion er’ill.

Guto: Pam felly?

Mair:  Ti’m yn gofyn cwestiyna’ fel’na siŵr, idiot!

Guto: Pam? Ma’n gwestiwn syml.

Mair:  Syml ydi, ond anodd iawn i’w ateb.

(saib hir rhwng y ddau)

Guto: Dwi’n meddwl dyna ydi problem fwya’n byd ni.

Mair:  Be?

Guto: Ofn.

Mair:  Ofn?

Guto: Pobl ’lly.

Mair:  Be, ti ofn pobl?

Guto: Naci, pobl sydd ofn, ofn siarad.

Mair:  Be sy’ haru chdi? ’Da ni’n siarad rŵan.

Guto: Yndan, siarad ffwrdd â hi de, ond nid siarad dwfn. Agor fyny, peidio bod ofn rhannu teimladau. Mae ’na ddiffyg hynny, a dyna pam ma’ ’na gymaint o’r depression ’ma.

Mair:  Depression ti’n ddeud?

Guto: Ia, cofio nain yn sôn am y Great Depression efo fi, sôn am bobl yn diodda’.

(Mae Mair yn chwerthin)

Guto: Be’ sy’ mor ddoniol, ma’ hyn yn serious sdi!

Mair:  (chwerthin) W’n i. W’n i.

Guto: Ac ma’ pobl yn marw ohona fo.

Mair: Ti yn gwybod ma’ efo pres o’dd y Great Depression sdi.

Guto: Wel ma’ hynny’n un ffactor, dim pres, dim bwyd, a dyna sut mae pobl yn mynd yn depressed sdi.

Mair: (chwerthin) Ti’n falwr ’fyd dwyt.

Guto: Malwr?

Mair: Malwr ar gachu ’de! Rŵan ty’d, ma’ hi’n nosi. Fydda’ i ’tha cadach tamp yn bora os arosai’n fa’ma fymryn hirach yn gwrando arna chdi’n colbio.

Guto: Colbio wir, siarad sens ydw i. O’dd nain yn grediniol mai gweinidog fyddwn i ryw ddiwrnod.

Mair: ’Sa ti’n grêt fel gw’nidog! Malu cachu bob munud ac yn lyfio Duw, (llais uchel ac yn goeglyd) You got the job!

(y ddau yn chwerthin)

Guto: Taw nei di. ’Sw ni’m yn dy fedyddio di. Gormod o bechoda’ i gael gwarad arnyn nhw!

Mair: Mi fasa angan pressure washer i gael gwared ar bob pechod oddi arna i (chwerthin). Reit ’dw i’n mynd i ’ngwely. (Pwyntio at bwced o ddŵr) Dwi’n disgw’l fod y dŵr ’na’n win erbyn bora, iawn! (chwerthin)

Guto: (chwerthin) Nos da!

Mair: Nos da!