Troi Gwener Du yn Gwener Gwyrdd

Mae prosiect newydd ‘Petha’ yn annog pobol i droi Dydd Gwener Du (Black Friday) yn ddydd Gwener Gwyrdd drwy roi yn hytrach na phrynu.

Y bwriad yw sefydlu llyfrgelloedd y Petha yn Nyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog.

“Mae’r syniad tu ôl i Lyfrgelloedd Petha yn syml – ma nhw‘ run peth â llyfrgell draddodiadol, ond yn hytrach na benthyg llyfrau, mae modd benthyg petha,” meddai Cydlynydd Petha, Catrin Wager ar Ogwen360.

“Drwy fenthyg a rhannu yn hytrach na phrynu, gellir arbed arian, arbed gofod yn eich cartrefi, lleihau gwastraff a lleihau eich ôl-troed carbon.”

Troi Gwener Du yn Gwener Gwyrdd

Prosiect newydd yn annog trigolion Dyffryn Ogwen i droi Dydd Gwener Du yn Gwener Gwyrdd – drwy roi yn hytrach na phrynu

Consart o Ben Twthill

Mae Côr Dre yng Nghaernarfon newydd lansio fideo newydd o’r gân ‘Baba Yetu’ i nodi tymor cynta’r côr o ymarferion dan do ers gwanwyn 2020.

Ers i’r côr ailddechrau ymarfer dan do ym mis Medi 2021, mae dros hanner cant o aelodau wedi bod yn dod i’r ymarferion wythnosol llwyddiannus, yn cynnwys nifer helaeth o aelodau newydd.

Aeth y côr i leoliad eiconig copa Twthill i recordio’r fideo, gyda golygfeydd godidog dros dref Caernarfon yn gefndir i’r fideo. Ewch i Caernarfon360 i wylio’r perfformiad.

920617AF-D859-49DF-928F

? GWYLIWCH: Consart o Ben Twthill

Osian Wyn Owen

Ffilmiwyd y gân ar Ben Twthill

Canlyniadau Eisteddfod CFfI Cymru

Clwyd ddaeth i’r brig yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru dros y penwythnos.

Er bod yr Eisteddfod ychydig yn wahanol eleni, gyda chyfyngiadau Covid yn golygu nad oedd cystadleuaeth côr i orffen y noson, roedd y cystadlu’n frwd. Un o’r uchafbwyntiau oedd cadeirio Ianto Jones o Glwb Felinfach a choroni Carwyn Jones o Glwb Rhosybol.

Bu cyn-aelod o’r mudiad, Nia Wyn Davies, yn cyhoeddi’r canlyniadau mewn blog byw o’r gynulleidfa, ac maent i’w gweld ar Clonc360.

Eisteddfod CFfI Cymru

Nia Wyn Davies

Dewch i ddilyn hanes yr Eisteddfod

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Aberystwyth yn penodi Ysgrifennydd newydd y Brifysgol, ar Clonc360
  2. Cofio Maldwyn Rhafod, gan Mari Wyn Hughes ar DyffrynNantlle360
  3. Consart o ben Twthill, gan Osian Owen ar Caernarfon360