Ennill Her y Ffilm Fer
Criw ifanc o Ddyffryn Nantlle oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ‘Her Ffilm Fer’ eleni. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gan Hansh ac S4C, ble buodd rhaid i’r criw greu ffilm sydd yn para llai na phum munud, gan gwblhau’r holl waith o fewn 48 awr.
Ffilmiwyd Eto gan griw Trac 42 o Benygroes. Ewch draw i DyffrynNantlle360 i ddarganfod sut mae gwylio’r ffilm ddu a gwyn.
Aber yn croesawu Osian ar ei daith drwy Gymru
Er mwyn cyrraedd Rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf, teithiodd Osian Jones ar ei feic o Gaernarfon. Mae’r ymgyrchydd iaith o Wynedd yn galw ar yr awdurdodau i weithredu ar yr angen am fwy o gartrefi.
Stopiodd Osian mewn sawl ardal ar ei ffordd er mwyn lledaenu’r neges. Ei fwriad oedd cyrraedd y Senedd ym Mae Caerdydd erbyn 1:30pm dydd Sadwrn er mwyn rhoi llythyr i Mark Drakeford sydd yn ei annog i weithredu ar unwaith.
Darllenwch mwy am daith Osian ar BroAber360.
Aber yn croesawu Osian ar ei daith drwy Gymru
Hen festri yn troi’n ganolfan gymunedol
Mae’r Festri yn elusen sy’n hyrwyddo a datblygu mentrau a phrosiectau cymunedol ym mhentref Llanberis. Mae’r fenter gelfyddydol wedi’i lleoli yn hen adeilad festri Capel Gorffwysfa, wedi’i leoli ar Stryd Fawr Llanberis.
Yn ôl Merlin Tomkins, Cadeirydd yr elusen, gweledigaeth y Festri yw “hyrwyddo celf weledol, ddigidol a pherfformio cymunedol mewn ffordd sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru”.Roedd adeilad y Festri yn perthyn i Gapel Gorffwysfa, capel Methodistaidd a adeiladwyd ar waelod Goodman Street ym 1867, ac mae ganddo hanes cyfoethog fel cartref i’r Ysgol Sul, Band of Hope, ac ymarferion Band Pres Llanberis. Ewch draw i BroWyddfa360 i ddysgu mwy am hanes yr adeilad, ac am elusen Y Festri.
Straeon Bro poblogaidd yr wythnos!
- Hanes Doreen Evans, faciwî o Lerpwl gan Carys Wilson ar Clonc360
- Buddugol yn y Her Ffilm Fer gan Yr Orsaf ar DyffrynNantlle360
- Goronwy Evans yn procio’r cof ar ôl 50 mlynedd o wasanaethu’r gymuned gan Gwenllian Jones ar Clonc360