Mae’r cerddor amryddawn 18 oed o Bontypridd yn astudio Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu yn aelod o sawl cerddorfa ac mae ei ganeuon pop melodig dan yr enw ‘Y Dail’ wedi eu chwarae ar BBC Radio 6 Music…
Ers faint ydych chi yn creu caneuon pop?
Ers i fi fod tua 12, yn gwneud demos ar [raglen gyfrifiadur] Garage Band.
Rydw i yn teimlo bod creu cân yn rhywbeth eitha’ hudol, oherwydd rydech chi’n dod a rhywbeth fewn i’r byd oedd ddim yn bodoli cynt.
Mae yn rhywbeth sy’n rhoi gwefr i chi, ac mae rhywbeth eitha’ mysterious amdano fe… mae e’n addictive!
Sut deimlad yw clywed DJs fel Marc Riley ar Radio 6 Music yn cyfeirio at eich caneuon fel “pop perffaith”?
Mae e’n brofiad gwych clywed eich stwff ar y radio, yn enwedig am y tro cyntaf.
Mae e’n neis cael DJs yn cefnogi chi a chael y gydnabyddiaeth yna… mae e’n rhoi hyder i chi, ac rydych chi’n meddwl eich bod chi yn ei wneud e sort of yn iawn!
Pwy yw eich dylanwadau o fyd pop?
O ran cyfansoddi caneuon – Gruff Rhys, Cate Le Bon, Ani Glass, a dw i’n dwlu ar Ezra Koenig o Vampire Weekend.
O ran y lyrics, rydw i wastad wedi dwlu ar Paddy McAloon o Prefab Sprout a Tom Verlaine o Television.
A hefyd Bob Dylan ar y record Blonde On Blonde.
Oes yna hanes o greu cerddoriaeth yn y teulu?
Roedd Dad yn chwarae mewn gwahanol grwpiau, a gwahanol aelodau o’r teulu wedi bod mewn cerddorfeydd a phethe.
Mae fy mam yn delynores, ac roedd Dad yn sgrifennu’r caneuon a chanu a chwarae’r gitâr yn The Afternoons.
Ydy’ch rhieni yn mynegi barn am eich caneuon?!
Ha! Mae e’n dibynnu… maen nhw yn gefnogol, ac efallai yn rhoi ychdyig bach o constructive criticism.
Sut ymateb sydd wedi bod i’ch sengl ddiweddara’, ‘Dyma Kim Carsons’?
Mae ‘Kim Carsons’ yn gymeriad allan o nofel The Place of Dead Roads gan William Burroughs.
Ac mae hi’n gân argraffiadol, cân serch yn y bôn… ac ie, mae’r ymateb wedi bod yn dda. Adam Walton wedi ei chwarae hi cwpwl o weithiau [ar Radio Wales].
Sut beth yw gig Y Dail?
Wnes i ffurfio’r Dail tua tair blynedd yn ôl gyda chwpwl o ffrindiau, a wnaethon ni eithaf tipyn o gigs, ac wedyn roedd pobol yn mynd i ffwrdd i’r coleg.
Ar hyn o bryd Y Dail yn fyw yw fi a fy chwaer iau, Elen, yn chwarae keyboards neu percussion neu beth bynnag.
Rydw i’n chwarae gitâr a chanu, ac mae e’n eithaf liberating fel deuawd, achos mae e’n rhyddhau fi, mewn ffordd, i ganolbwyntio ar y caneuon, yn hytrach na cheisio ail-greu beth sydd ar y records yn slafaidd, sy’n arwain at rywbeth difyr a minimalistic.
Ers faint ydych chi’n chwarae mewn cerddorfa?
Rydw i’n chwarae’r ffidil mewn cerddorfeydd ers pan oeddwn i tua wyth oed – cerddorfa sir Rhondda Cynon Taf, wedyn Cerddorfa Ieuenctid y Pedair Sir, ac rydw i nawr yn chwarae yng Ngherddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd.
Rydw i yn cael yr un wefr o chwarae mewn band roc ag yr ydw i yn chwarae mewn cerddorfa.
Cerddoriaeth pa gyfansoddwr clasurol sydd orau ganddoch chi?
Ar hyn o bryd gyda’r gerddorfa ryden ni yn chwarae Symffoni Rhif 4 gan Mahler, ac ie, absolutely amazing.
Beth yw eich atgof cynta’?
Gwylio’r syrcas yng Nghaerdydd a ddim cweit yn deall beth oedd yn mynd ymlaen.
Beth yw eich ofn mwya’?
Sparrow Hawks, sef yr aderyn ysglyfaethus.
Wnaeth yna un lanio yn yr ardd, pan oeddwn i yn eithaf ifanc, a lladd aderyn.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Chwarae tipyn o bêl-droed pump-bob-ochr, a dw i yn hoffi nofio yn y Lido ym Mhontypridd – lle gwych!
Beth sy’n eich gwylltio?
Pan mae rhywun yn jesd gadael y llaeth mas o’r ffrij, a ma fe’n mynd off!
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Indian curry gyda James Joyce a Rostam o Vampire Weekend.
Bydden i yn trafod music production gyda Rostam.
Rwy’n edmygu’r ffordd roedd James Joyce mor ddewr yn arbrofi gyda llenyddiaeth – wnaeth e agor y drysau ar gyfer pobol i sgwennu fel maen nhw yn meddwl, llif yr ymwybod.
Beth yw eich hoff albwm cerddorol?
Country Life gan Roxy Music. Mae’r songwriting a’r guitar solos arno fe, a lyrics Bryan Ferry, yn wych.
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Mae hwn yn sbesiffig iawn!
Gwisg David Bowie yn perfformio ‘Rebel Rebel’ ar sioe deledu yn yr Iseldiroedd yn 1974, sef dyngarîs coch, pirate eye patch a platform boots.
Wnes i wisgo fel yna i barti pan oeddwn i yn ryw 17.
Pa gig sy’n aros yn y cof?
Siŵr o fod Clwb Ifor y diwrnod o’r blaen, pan oedden ni yn cefnogi Papur Wal. Roeddwn i’n teimlo aeth hwnna yn ok!
Gwyliau gorau?
Rydw i yn dwlu mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd yn yr Haf.
Rydech chi wastad yn gweld loads o bands mindblowing.
Rwy’n cofio wnes i weld Television yna a – wfff! – roedd hwnna yn real experience.
A gweld bandiau fel Mercury Rev a The Fall a Belle and Sebastian.
Ydech chi’n cael cyfle i ddarllen o ran pleser, o gofio eich bod yn astudio llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg?
Ydw, ie. Ar hyn o bryd rydw i’n darllen A Poet In The Family gan Dannie Abse, awdur o Gaerdydd yn yr ugeinfed ganrif. Mae e’n llyfr diddorol.
O ran fy hoff lyfrau, rydw i’n hoffi dyddiaduron Richard Burton a Kenneth Williams, a hefyd llyfr rydw i wastad yn dod nôl ato yw Meddyginiaethau Gwerin Cymru, sef llyfr hanes am sut roedd y werin yn defnyddio gwybodaeth am wahanol blanhigion ac ati i wneud meddyginiaethau primitive iawn.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Rydw i yn absolutely dwlu ar Abba, a fy hoff gân yw ‘Knowing Me Knowing You’.