Mae Phil Gas a’r Band wedi llwyddo i recordio casgliad newydd er gwaetha’r cyfnod covid, ac mae ganddyn nhw aelod newydd sy’n hen law ar gyfansoddi caneuon…

Mae Phil Gas a’r Band newydd ryddhau eu hail albwm o ganeuon gwerin bachog, hwyliog a chynnes – O’r Dyffryn i’r Dre.

Ac fel llawer i fand arall, maen nhw wedi gorfod troi at zoomio er mwyn gallu saernïo’r caneuon newydd yn y cyfnod clo.