Y Ffotomarathon rhithiol yn creu arddangosfa go-iawn
“Mae gweld y delweddau’n cael eu harddangos yn un o’n prif orielau cenedlaethol yn brofiad mor wych ac rwy’n amau ei fod yn dipyn o wefr i’r holl gystadleuwyr.”
Cynhaliwyd ffotomarathon flynyddol Aberystwyth yn ddiweddar ac unwaith eto, fel digwyddiad rhithiol. Ond wnaeth hynny ddim rhwystro dros 60 o gystadleuwyr rhag cystadlu ac ymateb i’r her o dynnu chwe llun ar chwe thema mewn chwe awr.
Eleni am y tro cyntaf, mae modd mwynhau’r lluniau mewn arddangosfa arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ewch i BroAber360 i weld manylion yr enillwyr, ac ewch i’r Llyfrgell ger y lli cyn 10 Tachwedd i fwynhau’r arlwy.
Y Ffotomarathon rithiol yn creu arddangosfa go iawn
Mentro i fyd padlfyrddio
Aeth Gwen Thomas i holi perchennog busnes padlfyrddio newydd a brodor o Ddyffryn Nantlle, Carwyn Humphreys, ar ran DyffrynNantlle360. Cafodd dipyn o syndod wrth wrando ar Carwyn yn adrodd hanes yr heriau mae wedi’u cwblhau ar y bwrdd…
“Dros gyfnod o wythnos, fe deithiodd Carwyn ar ei badlfwrdd ar hyd y Caladonian Canal – taith sydd yn 60 milltir ac yn mynd drwy sawl Loch gan gynnwys Loch Ness gan gario ei eiddo gydag o (ar y bwrdd!) a champio gyda’r nos.”
Llanwenog yn ennill Steddfod y Cardis
Roedd aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn ôl ar y llwyfan dros y penwythnos, ac er nad oedd modd i’r cyhoedd fod yn bresennol yn yr eisteddfod, bu’r aelodau’n rhannu’r diweddaraf o’r cystadlu mewn blog byw ar y gwefannau bro.
Clwb Llanwenog ddaeth i’r brig eleni eto, a’u cymdogion Clwb Pontsian yn ail. I Lanwenog a Twm Ebbsworth aeth y goron, a’r gadair i Ianto Jones o Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach. Ewch i Clonc360 i weld lluniau’r cystadlu, fideos cyfweliadau a’r holl ganlyniadau.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- “Fedrwn i ddim stopio meddwl am beth oedd wedi digwydd iddi” ar Caernarfon360
- Blog Steddfod Clwb Ffermwyr Ifanc y Cardis, gan Elliw Dafydd a’r criw ar Clonc360
- Milwr y Milwyr, gan Melissa Davies ar Clonc360