Wrth i’r lluoedd losgi tunelli o garbon ar eu ffordd i’r uwchgynhadledd amgychedd yn ninas fwya’r Alban, roedd o leia’ un o drigolion y wlad honno’n falch ei bod hi’n tywallt y glaw …
“Wrth i COP lanio yng Nglasgow, mae ein picil yn ymddangos yn un difrifol iawn. Dw i’n gobeithio y bydd y glaw yn dal i bistyllio. Fel y dywedodd y sgrifennwr Americanaidd, Wendell Berry, wrthon ni: ‘Rydym wedi byw yn ôl y dybiaeth y byddai’r hyn sy’n dda i ni yn dda i’r byd. Rydym wedi bod yn anghywir. Rhaid i ni newid ein bywydau fel ei bod yn bosib byw yn ôl y dybiaeth y bydd yr hyn sy’n dda i’r byd yn dda i ni’.” (Mike Small ar bellacaledonia.rog.uk)
Problem John Dixon ydi fod Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dweud un peth a gwneud rhywbeth arall …
“Unwaith eto, mae’n ymddangos nad yw Johnny Foreigner yn deall fod gan y DU hawl i ddweud wrth bobol eraill sut i fihafio wrth wneud y gwrthwyneb ei hun. Dyw hi ddim yn helpu achos [Boris Johnson] ei fod wedi cyfaddef yr wythnos diwetha’ ei fod yn amheuwr ynghylch newid hinsawdd cyn dod yn Brif Weinidog, gan newid ei feddwl yn unig ar ôl symud i Rif 10 a gweld y ffeithiau gan bobol oedd yn gwybod eu stwff… gallai rhywun ddisgwyl y byddai dyn a dreuliodd flynyddoedd yn dadlau’n hollol groes i’w ddadleuon heddiw, gan wneud hynny ar sail… ei anwybodaeth a’i amharodrwydd i segydlu’r ffeithiau, yn dangos ychydig mwy o wyleidd-dra cyn beirniadu eraill. Ond, dyna ni, dyw gwyleidd-dra a Boris Johnson ddim yn eiriau a fyddai fel rheol yn yr un frawddeg.” (borthlas.blogspot.com)
Draw ar thenational.wales, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi cymryd y cyfle amgylcheddol i lambastio’r teulu brenhinol …
“Dyw’r royals yn gwneud dim i leihau eu hallyriadau… Yn wir, fe dyfon nhw 3% tros y flwyddyn, gan ddyblu’r allyriadau o dripiau tramor. Y casgliad? Maen nhw’n ychwanegu’n anghymesur ac yn annheg at y ddifrod cynhesu byd-eang. Ac ry’n ni’n caniatáu iddyn nhw wneud hynny.” (thenational.wales)
Tra’r oedd o yn yr Alban, efallai fod Boris Johnson wedi treulio ychydig amser yn ystyried sut i’w chadw hi’n rhan o’r Undeb …
“… mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bellach dacteg clir o ran achub yr Undeb. Gwario llwythi, fflachiog o arian yng Nghymru a’r Alban a phlastro Jac yr Undeb tros y prosiectau ar y diwedd… [ond] fydd cyhoeddi prosiectau gwerth sawl miliwn ddim yn gwneud llawer os na fydd San Steffan yn datrys y diffyg cydbwysedd economaidd sylfaenol rhwng gwahanol rannau o’r DU… Efallai mai’r eironi yw… nad yw’r Brecsitwyr erioed wedi deall pam fod yr Undeb Ewropeaidd wedi methu â chreu perthynas gyda phobol y DU. Petai taflu cannodd o filiynau at brosiectau unigol yn ddigon, fyddai Cymru ddim wedi pleidleisio i adael.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)