Mae boi o Awstralia yn byw ym Mhowys ac yn creu caneuon Cymraeg sy’n ffynci ar y naw…

‘Dwwwi’ yw’r unig drac Cymraeg ar albwm cyntaf Ffredi Blino, ac mae hi’n glincar hyfryd-secsi-gwych sydd wedi bod yn hit ar Radio Cymru.

Ac yn ddiweddar mae’r DJ Rhys Mwyn wedi chwarae cân Gymraeg newydd gan Ffredi a fydd yn ymddangos ar ei ail albwm, sef y trac ‘Ffyrdd Tarmac a Ffensys’.