Mae cricedwr ifanc yn gwneud ei farc ar Forgannwg…

Gyda’r tymor criced wedi dod i ben a’r sylw’n troi at gemau pêl hirgron yr hydref, mae’r cricedwr Tegid Phillips wedi dweud wrth Golwg fod dau chwaraewr rygbi adnabyddus yn well gricedwyr na fe pan oedden nhw’n chwarae yn yr un tîm criced ieuenctid rai blynyddoedd yn ôl.

Yn nhîm ieuenctid Caerdydd a’r Fro ar yr un pryd â chyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf roedd Llew a maswr rhyngwladol.

Mae Ysgol Gyfun Glantaf yn adnabyddus am gynhyrchu chwaraewyr rygbi rhyngwladol, gan gynnwys Seb Davies, Rhys Patchell, Jamie Roberts, a Jamie a Nicky Robinson.

Ond yn blentyn, roedd Tegid Phillips yn chwarae i dîm ifanc Caerdydd a’r Fro gydag Ioan Lloyd a Louis Rees-Zammit.

“Dyna’r ddau sydd fwyaf adnabyddus!” meddai wrth Golwg am gyd-gricedwyr ei ieuenctid. “Ro’n nhw’n gricedwyr rili dda. Ro’n nhw’n well na fi bryd hynny! Yn amlwg, maen nhw wedi cymryd y llwybr rygbi ac wedi gwneud yn rili dda, ond ro’n nhw’n gricedwyr rili talentog.”

Prin yw’r Cymry Cymraeg sy’n cyrraedd y brig yn y gêm griced sirol. Yn fwyaf diweddar, fe fu Owen Morgan, cyn-ddisgybl Ysgol Y Strade yn Llanelli, yn aelod cyson o garfan Morgannwg. Ond ag yntau bellach wedi gadael, mae Tegid Phillips yn sefyll ar ei ben ei hun. Ond tybed faint o griced roedd e’n ei chwarae yn Ysgol Gyfun Glantaf?

“Roedd hi’n ysgol eitha’ cryf am rygbi a chwarae bach o bêl-droed hefyd, ond dim criced o gwbl rili,” meddai. “Dyna’r math o ysgol yw e. Wnes i chwarae peth criced, cwpwl o gemau yn yr haf efallai. Roedd athro ymarfer corff ni’n rili hoffi criced so roedd e’n cael cymaint o gemau â phosib, ond dim lot.

“Pan o’n ni yn chwarae, roedd e’n fwy fel pawb yn cymryd rhan, pawb yn cael hwyl. Doedd y safon ddim yn grêt ond roedd e’n fwy ambwyti chwarae criced gyda ffrindiau ti yn yr ysgol a wnes i rili fwynhau chwarae yn y gemau yna. Ro’n ni’n anffodus fod dim mwy rili. Efallai bod pedwar, pump, chwe gêm bob blwyddyn. Ond fysen i wedi hoffi bach mwy fi’n credu.”

Ennill gwobrau criced

Gyda Louis Rees-Zammit ac Ioan Lloyd yn dilyn y trywydd rygbi, a oedd hi’n demtasiwn i Tegid Phillips fynd i’r un cyfeiriad hefyd?

“Na, i fod yn onest. Sa i’n credu ro’n i’n ddigon da. Dim ond criced oedd yr opsiwn os o’n i’n mo’yn mynd i’r top level. Ro’n i’n rili mwynhau criced, a rygbi pan o’n ifanc – efallai’n fwy na’r criced hyd yn oed. Ond daeth cyfnod lle do’n i ddim yn ddigon mawr i chwarae rygbi ddim mwy a do’n i ddim mor dda â’r top players pêl-droed. A wnes i feddwl, wel, wna i jyst chwarae criced.”

Arweiniodd ei berfformiadau at nifer o wobrau ar ddiwedd y tymor hwn wrth iddo gael ei enwi’n Chwaraewr Academi’r Flwyddyn gan Forgannwg, a derbyn gwobr y grŵp cefnogwyr, Orielwyr San Helen, am fod y chwaraewr heb gap sydd wedi gwella fwyaf eleni.

“Roedd hi’n noson rili neis lawr yn Abertawe,” meddai am y noson wobrwyo. “Ro’n i’n ffodus iawn i gael ennill Chwaraewr Academi’r Flwyddyn gyda Morgannwg ac wedyn y Most Improved Uncapped Player gyda’r Orielwyr. Felly ro’n i’n rili hapus, bach o sioc actually, ond roedd hi’n neis cael y gydnabyddiaeth yna, nid yn unig gan Forgannwg, ond hefyd y cefnogwyr.”

Criced yn yr ysgol

Tegid Phillips yn bowlio

Daeth cyhoeddiad yn ddiweddar fod y troellwr Tegid wedi cael cytundeb ieuenctid (rookie contract) am flwyddyn ar ôl creu argraff dros yr haf eleni yn chwarae i Academi ac ail dîm Morgannwg, ac i Sir Genedlaethol Cymru yng nghystadlaethau’r Siroedd Llai (Minor Counties). Mae’r cytundeb ‘rookie’ yn golygu bod gan chwaraewyr ifainc fwy o hawliau yn ôl cytundeb rhwng y 18 sir dosbarth cyntaf, gan gynnwys isafswm cyflog i bob chwaraewr proffesiynol, cyflogau cynyddol i chwaraewyr 18-21 oed a mwy o ddisgwyliadau i siroedd warchod lles chwaraewyr ifainc.

Ac mae’n debyg fod y cytundeb newydd yn dangos bod Tegid wedi gwneud y penderfyniad cywir, ac yntau wedi mynd yn ei flaen o dîm Caerdydd a’r Fro i chwarae ar lefel y clybiau i Gaerdydd, ar lefel y siroedd llai i Sir Genedlaethol Cymru, ac yna i Academi ac ail dîm Morgannwg.

“Yn amlwg, ro’n i’n rili bles i gael y cytundeb oherwydd bod yr holl waith caled fi wedi gwneud dros y blynyddoedd diwetha’ yn yr Academi, ac yn enwedig y flwyddyn hyn gyda thîm Sir Genedlaethol Cymru a hefyd gyda chlwb Caerdydd. Mae’n dangos bod e’n bosib i ddal chwaraewyr lleol i gael profiad a’r cyfle i fynd ymlaen i chwarae ar lefel uwch. Yn amlwg, pan ges i’r newyddion, ro’n i’n excited. Mae’n deimlad rili neis i gael y cyfle nawr i traino a chwarae gyda’r tîm cyntaf.”

Yr academaidd a’r allgyrsiol

Ac fel mae’n egluro, mae’r rookie contract yn cynnig sicrwydd wrth iddo fe gwblhau gradd mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, gan roi’r cyfle iddo fe ganolbwyntio ar ei waith academaidd ochr yn ochr â’i ddatblygiad fel cricedwr pan fydd amser yn caniatáu.

Rookie contract yw’r math o gontract i chwaraewyr sy’n dod i mewn i’r gêm yn eitha’ ifanc i wneud yn siŵr bod yna rywbeth arall tu fa’s i’r criced. I fi, bydd hwnna’n meddwl y brifysgol, ond efallai mae rhai chwaraewyr sydd ddim yn mynd i’r brifysgol, wedyn mae rhyw fath o requirement i’r chwaraewyr yna i wneud rhywbeth tu fa’s i’r criced, efallai gweithio’n rhan amser neu helpu yn y gymuned mewn rhyw ffordd.

“Bydda i yn y brifysgol fy hun ac mae hwnna’n cymryd blaenoriaeth ar y foment. Dyna’r sgwrs ges i pan wnes i gytuno’r contract. Ro’n i wedi dweud siŵr o fod fydd hwnna’n cymryd blaenoriaeth, yn enwedig yn y gaeaf. Ac wedyn, yn amlwg yn yr haf pan mae’r brifysgol wedi gorffen, bydda i’n cael fy nhalu wedyn i chwarae criced.”

Mae chwarae i dîm Prifysgolion Caerdydd yn drywydd digon cyffredin i nifer o gricedwyr presennol a chyn-gricedwyr Morgannwg. A bydd hynny’n rhan o ddatblygiad Tegid Phillips dros y blynyddoedd nesaf hefyd.

“Fi’n credu pan maen nhw’n dechrau chwarae’n eitha’ cynnar yn yr haf, bydd cyfle i fi chwarae iddyn nhw a hefyd i ymarfer gyda nhw trwy’r gaeaf. Ond yn amlwg, fi’n credu taw Morgannwg fydd y flaenoriaeth. Ond bydd cyfle nawr ac yn y man i ymarfer ac i chwarae gyda nhw.”

Sir Genedlaethol Cymru – pinacl criced ar lawr gwlad

Ond mae’n bwysig hefyd i Tegid gael y cyfle i chwarae i Sir Genedlaethol Cymru – y tîm sy’n cael ei ystyried yn binacl y gêm ar lawr gwlad. Mae pob un o’r chwaraewyr yn y garfan naill ai wedi chwarae i Forgannwg, i’r ail dîm neu’r Academi yn ogystal ag i un o dimau Uwch Gynghrair De Cymru.

Fi’n credu taw dyna sydd wedi helpu fi gymaint y flwyddyn yma, yn enwedig y ffaith bo fi wedi gallu chwarae pob gêm, bron â bod, i’r tîm Sir Genedlaethol. Fi, yn ffodus, wedi gallu gwneud yn dda ac wedi cael cyfle dros bob fformat. Mae’n rhoi’r cyfle efallai i chwaraewyr fyddai ddim yn cael cyfle. Yn amlwg, gyda fi, ro’n i yn yr Academi a ro’n i’n barod ar y pathway, ond gyda chwaraewyr eraill sydd ddim efallai wedi gorffen y pathway neu ddim cweit wedi bod yn yr Academi, mae’n rhoi cyfle da iddyn nhw hefyd. Fi’n credu bod cystadleuaeth y Sir Genedlaethol yn rili dda ac mae’n helpu lot o chwaraewyr, fi’n credu.

 “Mae’r Academi’n bwysig ond efallai ddim yn ddiwedd y byd os nag y’ch chi yn yr Academi. Yn amlwg, mae e wedi helpu fi lot fawr, jest i allu ymarfer yn aml gyda hyfforddwyr sy’n brofiadol, yn gwybod beth maen nhw’n gwneud. Ond galla i ddweud hefyd fod lot o chwaraewyr proffesiynol ddim yn cael ar yr Academis proffesiynol. Maen nhw’n gweithio’u ffordd lan mewn ffyrdd eraill, efallai trwy glwb neu drwy pathways y brifysgol hyd yn oed. Dyw e ddim yn ddiwedd y byd os nag y’ch chi yn yr Academi. Ond yn fy achos i, wnaeth e definitely helpu fi.”

Y clwb, y teulu a’r unigolion blaenllaw

Mae Tegid yn dweud bod Clwb Criced Caerdydd yn “hanfodol ers o’n i’n saith oed”.

“Dyna’r criced cyntaf i fi chwarae, dyna’r hyfforddwyr cyntaf i fi gael. Fi byth yn gwybod, os oedd y clwb ddim mor dda, efallai fysen i wedi stopio chwarae criced. Maen nhw wedi bod yn wych yn helpu gyda datblygiad fi ers o’n i’n saith, a chwarae trwy’r age grades i gyd a rhoi fi’n syth yn y tîm cyntaf pan o’n nhw’n meddwl bo fi’n ddigon da. A jyst pethau bach, yr holl oriau o hyfforddi ro’n nhw wedi gwneud gyda fi… mae’n mynd bach yn unnoticed weithiau, ond maen nhw wedi bod yn wych.

“Yn amlwg, mae mam a dad wedi helpu fi lot yn mynd â fi i ymarfer ac yn rhoi liffts i fi ac yn prynu cit i fi. Bydden i’n dweud hefyd yr hyfforddwyr yng Nghaerdydd, yn enwedig Kevin Lyons, mae e wedi helpu fi lot. Fi wedi gwneud lot o sesiynau unigol gyda fe. Ac wedyn, pryd es i ar yr Academi, mae e’n eitha’ eang o ran yr hyfforddwyr i gyd, felly fysen i’n methu rili canolbwyntio ar un ohonyn nhw. Ond mae’r hyfforddwyr i gyd rili mo’yn helpu ti ac maen nhw rili mo’yn i ti gyrraedd y step nesa’, sef y gêm broffesiynol.”

Edrych tua’r dyfodol

A dyna fydd ei nod yntau hefyd ar ôl cael y cytundeb newydd. Ei obaith wedyn yw ennill cytundeb parhaol gyda’r sir, ond mae’n deall pwysigrwydd cymryd un cam ar y tro ar hyn o bryd, a chanolbwyntio cymaint ar ei waith academaidd â’i griced.

“Yn amlwg, fi wedi cael cytundeb blwyddyn felly y step gyntaf yw gweithio’n rili galed y flwyddyn yma i gael perfformiadau da, gobeithio, yn yr haf sy’n meddwl efallai galla i gael cytundeb newydd ar ddiwedd y flwyddyn. Hwnna, fi’n credu, yw’r gôl gyntaf o ran y criced. Ond yn amlwg, hefyd, pasio’r ail flwyddyn yn y brifysgol a chael marciau da ac wedyn gewn ni weld os ’yf fi’n gallu cyrraedd diwedd y flwyddyn a bo fi’n pasio’r ail flwyddyn ac efallai’n cael cytundeb newydd.

“Wedyn gobeithio bydd hwnna’n setio fi lan i gael cytundeb hirach gyda Morgannwg a chadw fy hun yn ffit. Ac wedyn gewn ni weld ar ôl y brifysgol.”