Podlediad Gŵyl UMCB
“Pa mor braf ydi hi bod cerddoriaeth fyw yn ôl eto gyda ni?”
I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae, trefnodd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ŵyl o gwmpas y ddinas dros y penwythnos.
I roi blas o beth oedd i’w ddisgwyl yn y gigs, cyhoeddodd Radio UMCB bodlediad arbennig. Y fyfyrwraig Tegwen Bruce-Deans fu’n trafod y bandiau ac yn chwarae ei hoff diwns ar BangorFelin360.
Blas o’r Bröydd
Cwrdd diolchgarwch Bethel ar-lein
Y Parchedig Carys Hamilton – Ficer plwyf Pencarreg – fu’n arwain Cwrdd Diolchgarwch Capel Bethel, Parc-y-rhos eleni. ‘Amser’ oedd un o themâu ei neges, yn seiliedig ar Lyfr y Pregethwr, Pennod 3.
Os ydych wedi methu mynd i Gwrdd Diolchgarwch eleni, beth am wylio’r oedfa o Fethel ar Clonc360?
Argraffiadau Cynghorydd newydd
Chwe mis yn ôl etholwyd y Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanrug, Beca Brown, i’r cyngor sir. Y cwestiwn mawr ydi, a fyddai hi’n annog eraill i’r swydd?
Er amgylchiadau trist ei phenodiad, mae’r swydd yn dod â balchder i Beca. Mae cael y cyfle i droedio’r filltir sgwâr, cwrdd â phobol a cheisio eu cynorthwyo i oresgyn eu trafferthion yn ei “gwneud hi’n joban coblyn o werthfawr”.
Ond beth yw’r allwedd i wneud Cynghorydd da? Beca sy’n datgelu’r gyfrinach ar BroWyddfa360.
Argraffiadau Cynghorydd newydd wedi chwe mis…
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Cyfres deledu am Fethesda yn cipio gwobr, gan Carwyn Meredydd ar Ogwen360
- Yn llawn bywyd, yn llawn hanes, ac yn barod i droi ei law at beth bynnag a ddaw, gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Argraffiadau Cynghorydd newydd wedi chwe mis, gan Ffion Edwards ar BroWyddfa360